Newyddion

Gwasanaeth gwirio dogfennau'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - ar gael yng Nghasnewydd nawr

Wedi ei bostio ar Wednesday 15th January 2020

Bydd angen i ddinasyddion yr UE sydd am barhau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU ar ôl i wledydd Prydain adael yr UE wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd nawr yn cynnig gwasanaeth sganio dogfennau i gefnogi pobl sy’n gwneud cais dan y cynllun.

Ydych chi’n wladolyn o’r UE sy’n byw yng Nghasnewydd?

Os ydych chi’n wladolyn yr Undeb Ewropeaidd (UE), Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir, mae angen i chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) yn galluogi gwladolion yr UE sy’n byw yn y DU a’u teuluoedd i gael statws mewnfudo'r DU, sydd ei hangen arnynt i fyw, gweithio ac astudio yn y DU ar ôl i wledydd Prydain adael yr UE.

Rhaid i geisiadau gael eu gwneud cyn 30 Mehefin 2021 neu 31 Rhagfyr 2020 os yw’r DU yn gadael heb gytundeb. I wneud cais ar-lein ewch i www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families/applying-for-settled-status

Mae Swyddfa Gofrestru Casnewydd nawr yn cynnig gwasanaeth sganio dogfennau newydd lle gallwch gael eich dogfennau adnabod wedi’u sganio a’u dilysu er mwyn gwneud cais.

Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 3pm ar dydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener, a rhwng 9.30am a 3pm ar ddydd Mawrth. Nid oes angen apwyntiad ond efallai y bydd angen i chi aros tan fod aelod o staff ar gael.

Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli yn Swyddfa Gofrestru Casnewydd, Y Plasty, 4 Stow Park Circle, Casnewydd NP20 4HE.

Beth i ddod gyda chi

  • eich pasbort biometrig dilys presennol ar gyfer yr UE, AEE neu’r Swistir, neu Drwydded Preswylfa Fiometrig ar gyfer teulu dinasyddion yr UE, AEE neu’r Swistir
  • ffôn symudol sy’n gallu derbyn negeseuon testun neu ddyfais sy’n gallu derbyn e-bost
  • £14 fesul oedolion sy’n ymgeisio (dim tâl i blant dan 18 sy’n mynychu ar yr un pryd ag oedolyn sy’n ymgeisio). Derbynnir arian parod neu gerdyn.

**Dim ond y dogfennau adnabod a restrir uchod y gallwn eu gwirio**

Help a chyngor

Mae yna nifer o wasanaethau yng Nghasnewydd a all eich helpu i wneud cais i’r EUSS, rhoi cyngor i chi neu fynd i weld y gwasanaeth sganio gyda chi. Mae rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru www.eusswales.com/cy/

Os hoffech gael help yn cysylltu â sefydliad a all eich cefnogi, e-bostiwch [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.