Newyddion

Carthu'r gamlas

Wedi ei bostio ar Tuesday 21st January 2020
Mnmouthsire and Brecon Canal Lock 8_ conservation area

Gwaith carthu ar rannau o gamlas Aberhonddu a Sir Fynwy

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn mynd i wneud gwaith carthu ar rannau o gamlas Aberhonddu a Sir Fynwy. 

Y rhan gyntaf i’w charthu fydd y rhan rhwng Bettws Lane a Mill Heath, yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 Ionawr. Bydd gwaith ar ran Allt-Yr-Ynn yn ystod yr wythnos yn cychwyn 27 Ionawr ac wedyn yn ardal Ruskin Avenue yn y Tŷ-du yn ystod yr wythnos yn cychwyn 3 Chwefror 2020.

Mae’r gwaith carthu’n angenrheidiol a bydd yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n effeithio cyn lleied â phosibl ar bobl a bywyd gwyllt.  Ni fydd yn effeithio ar bobl sy’n defnyddio’r llwybr tynnu.

Casglu gwaelodion ar waelod y ddyfrffordd a’u symud oddi yno yw carthu.

Pe na byddai’r cyngor yn carthu’r camlesi, gallent siltio i fyny, a byddai hynny yn golygu na allai dŵr lifo’n hawdd a gallai hyn yn ei dro effeithio ar ddraenio’r tir. 

Byddai hefyd yn niweidiol i ansawdd y dŵr, a byddai hynny yn ei dro yn effeithio ar fflora, ffawna a bywyd gwyllt yn gyffredinol.

Mae dŵr o ansawdd dda yn gwbl hanfodol i fywyd gwyllt y dyfrffyrdd.  Mae carthu’n lleihau’r gwaelodion yn y dŵr a fyddai, fel arall, yn cael eu cymysgu yn y dŵr.  Gall gwaelodion sy’n hongian mewn dŵr orchuddio a thagu planhigion dŵr ac anifeiliaid di-asgwrn cefn y dŵr.

Bydd y silt a gaiff ei garthu o’r gamlas ei osod ar ochrau’r gamlas, a bydd yn cael ei adael yno am nifer o wythnosau.

Er y gall hyn edrych yn anniben, mae’n hollbwysig er mwyn gadael i anifeiliaid di-asgwrn cefn ddychwelyd i’r dŵr.  Pan fydd y cyngor yn fodlon bod y creaduriaid i gyd yn ôl yn y dŵr, byddwn yn dychwelyd i symud y gwaddol silt, yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

Mewn rhai achosion, lle mae glannau’r gamlas yn rhy gul, efallai y bydd angen symud y silt yn llwyr.  Bydd yn cael ei osod yng nghornel maes parcio Bettws Lane, gyda’r nod, unwaith eto, o alluogi creaduriaid di-asgwrn cefn i ddychwelyd i’r dŵr.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.