Newyddion

Dathlu ein hysgolion iach

Wedi ei bostio ar Thursday 16th January 2020
Healthy schools 2

Mynychodd disgyblion a staff o 12 ysgol yng Nghasnewydd seremoni arbennig yn y Ganolfan Ddinesig i nodi llwyddiant ysgubol.

Maent oll wedi llwyddo i gael gwobr ansawdd genedlaethol penigamp y Cynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru.

Roedd Ysgolion Cynradd Glasllwch; Mount Pleasant; Gaer; St Andrew's; Maendy; Cleidda; Eveswell; Langstone; Malpas Court; Llyswyry; Ysgol Gymraeg Casnewydd ac Ysgol Feithrin Fairoak yn cael eu cynrychioli yn siambr y cyngor yn y Ganolfan Ddinesig.

Cyflwynodd Maer Casnewydd, y Cynghorydd William Routley'r gwobrwyon yn y seremoni. Hefyd yn bresennol yn y seremoni oedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, y Cynghorydd Gail Giles.

Er mwyn ennill y wobr ansawdd genedlaethol, rhaid i'r ysgol gyfan groesawu'r saith thema sy'n cynnwys bwyd a ffitrwydd; datblygiad personol a lles emosiynol.

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Hoffwn longyfarch bob ysgol ar y llwyddiant ardderchog. Gall gymryd naw mlynedd i gael y wobr lawn, felly mae'n ymrwymiad mawr i ysgol a dylent fod yn falch iawn."

Dywedodd y Cynghorydd Giles: "Mae'r wobr hon yn galluogi ein pobl ifanc i gael agwedd bositif o ran iechyd a lles ac mae'n ffordd ardderchog o'u cyflwyno nhw i egwyddorion fydd yn aros gyda nhw am weddill eu bywydau. Da iawn."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.