Addysg a gorfodi gwastraff
Wedi ei bostio ar Tuesday 25th February 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhannu siom trigolion a busnesau gyda phobl sy'n methu gwaredu'u gwastraff mewn ffordd gyfrifol ac ystyriol.
Mae hyn yn effeithio ar bawb sy'n byw yn y ddinas, yn gweithio ynddi ac yn ymweld â hi, ac mae cost enfawr ynghlwm wrtho i'r Cyngor, a'r amgylchedd hefyd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliodd y Cyngor Bod yn Falch o Gasnewydd ac mae'r timau gorfodi gwastraff wedi cynnal gweithgareddau addysg a gorfodaeth yn ogystal â rhoi cymorth i grwpiau cymunedol ledled y ddinas.
Dyrannwyd £213,000 ychwanegol yng nghyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf i wneud canol y ddinas yn fwy deniadol, diogel a glanach a bydd hyn yn cynnwys glanhau ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau'r Ddinas: "Ar adeg pan fo adnoddau'n brin, rydym yn talu i godi sbwriel pobl eraill, arian y gellid ei gyfeirio at wasanaethau rheng flaen eraill.
"Rwy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd ac mae'n dristwch imi weld sbwriel yn cael ei daflu ar y strydoedd, weithiau'n agos at bin gwag. Fodd bynnag, hyd yn oed os yw bin cyhoeddus yn llawn, neu os nad oes un ar gael, nid oes dim esgus o gwbl. Dylai pobl fynd â'u sbwriel adref gyda nhw a'i waredu'n iawn.
"Mae tipio anghyfreithlon yn bla, mae'n difetha cefn gwlad a strydoedd trefol prydferth ar hyd a lled y wlad. Bydd pobl yn aml yn gyrru am filltiroedd i waredu pentyrrau o wastraff a gall y rhain fod yn gludwyr didrwydded sydd wedi cael eu talu gan ddeiliaid tai i fynd â'u sbwriel ymaith.
"Dylai pobl bob amser wirio bod gweithredwyr wedi'u trwyddedu, am eu bod yn galluogi ymarfer diegwyddor ac, o bosibl, troseddol - a hefyd yn cyflawni trosedd.
"Mae ein timau yn gweithio'n anhygoel o galed i godi ymwybyddiaeth ac i fynd i'r afael â'r rheini sy'n taflu sbwriel ac yn tipio'n anghyfreithlon. Maent yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithrediadau glanhau gyda sefydliadau eraill ac mae llawer o gynghorwyr, gan gynnwys fi fy hun, wedi cymryd rhan mewn sesiynau casglu sbwriel cymunedol.
"Nid cyfrifoldeb y Cyngor yn unig yw cadw'r ddinas yn lân, mae gan bawb ran i'w chwarae."
Mae timau gorfodi yn ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon ar briffyrdd a llwybrau troed a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Dan ddeddfwriaeth newydd, gallant gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o £400 am dipio anghyfreithlon a £300 am droseddau dyletswydd gofal.
Dros y chwe mis diwethaf, mae camau gorfodi mewn perthynas â throseddau gwastraff a thipio anghyfreithlon wedi cynnwys:
- 45 o lythyrau rhybudd
- 11 o hysbysiadau cosb benodedig
- Wyth dirwy o £400 am dipio anghyfreithlon
- Tair dirwy o £100 am daflu sbwriel
- Gwaith gwyliadwriaeth mewn ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd yn aml
- Gwiriadau trwyddedau gwastraff cludwyr
Maent hefyd yn cydweithio'n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu Gwent ar brojectau a hefyd â Taclo Tipio Cymru, a grwpiau eraill, yn ogystal â rhoi cymorth i grwpiau cymunedol ar ddigwyddiadau casglu sbwriel.
Mae gan Gasnewydd, fel pob awdurdod yng Nghymru, rwymedigaeth gyfreithiol a moesegol i leihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ac i gynyddu ailgylchu.
Yn dilyn newidiadau i gasgliadau cartrefi, mae swyddogion wedi cefnogi a chynghori cannoedd o breswylwyr a bu cynnydd sylweddol yn y cyfraddau ailgylchu yn y ddinas.
Mae gostyngiad o 20 y cant mewn gwastraff na ellir ei ailgylchu a chynnydd o 37 y cant yn y gwastraff bwyd sy'n cael ei gasglu yn dyst i ymdrechion mwyafrif y trigolion.
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r rhai sy'n camddefnyddio biniau sbwriel aelwydydd neu sydd â gormod o wastraff. Dros y chwe mis diwethaf, mae mwy na 2,000 o aelwydydd wedi cynhyrchu gormod o wastraff ond, ar ôl ymgysylltu â swyddogion, gostyngodd y rhai a oedd wedi creu gwastraff gormodol am yr ail dro gan 80 y cant a gan 70 y cant pellach o ran y rhai a oedd wedi creu gormod o wastraff am y trydydd tro.
Dim ond 26 o aelwydydd a gafodd hysbysiadau cosb benodedig a chafwyd dau achos llys llwyddiannus, gyda'r dirwyon wedi'u rhoi, a 16 yn yr arfaeth.