Newyddion

Ymgynghoriad ar y strategaeth toiledau cyhoeddus

Wedi ei bostio ar Monday 10th February 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ceisio barn y cyhoedd ar ei strategaethddrafft ar doiledau lleol dros y pedair wythnos nesaf.

Datblygwyd y ddogfen gan fod cyfrifoldeb ar y Cyngor i asesu gofynion y gymuned ar gyfer toiledau a nodi camau i ddiwallu'r angen hwnnw.

Fel rhan o'r gwaith o baratoi'r strategaeth, gofynnwyd i drigolion ac ymwelwyr a oedd digon o doiledau cyhoeddus yn y ddinas; os oeddent yn y mannau cywir ac os oedd y mathau o doiledau yn bodloni anghenion y cyhoedd.

Mae ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft yn cael ei gynnal ar Casnewydd - Dweud eich dweud. Mae'n cau ar 6 Mawrth.

Cyfryngau cymdeithasol

Byddem yn croesawu eich barn ar ein strategaeth ddrafft ar gyfer toiledau cyhoeddus yn Casnewydd - Dweud eich dweud. Mae'n cau ar 6 Mawrth.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.