Mae casgliadau gwastraff gwyrdd yn ailddechrau o 2 Mawrth
Wedi ei bostio ar Wednesday 26th February 2020
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn dechrau casglu gwastraff gwyrdd gan drigolion y ddinas o 2 Mawrth.
Gellir defnyddio biniau â chloriau oren ar gyfer toriadau porfa a thoriadau o'r ardd.
Caiff gwastraff gwyrdd ei gasglu bob pythefnos bob yn ail wythnos i'r casgliadau sbwriel.
Mae Wastesavers Casnewydd yn casglu ailgylchu wrth ymyl y ffordd bob wythnos, fel arfer ar yr un diwrnod â chasgliadau sbwriel neu Fin gwyrdd.
Gellir mynd ag amrywiaeth o eitemau ychwanegol, gan gynnwys batris, llyfrau a beiciau (mewn cyflwr da) i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref hefyd.
O'r wythnos sy'n dechrau ar 2 Mawrth, bydd y CAGC yn Docks Way ar agor tan 6pm ar ddydd Iau (mynediad olaf 15 munud cyn yr amser cau).
I wirio eich diwrnodau casglu, neu i gael gwybod mwy am wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y ddinas, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Waste-Recycling/Waste-Recycling.aspx