Newyddion

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 4th December 2020

Gall perchnogion ceir trydan yng Nghasnewydd bellach elwa o gynnydd yn nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael yn y ddinas.

Gosodwyd deunaw o wefrwyr cyflym deuol a dau wefrydd cyflym iawn ar draws yr wyth maes parcio cyhoeddus canlynol:

•           Parc Belle Vue

•           Faulkner Road

•           Hill Street

•           Maendy

•           Mill Parade

•           Glan yr Afon

•           Gorsaf drenau Tŷ-du

•           Stow Hill

Mae'r pwyntiau wedi'u gosod dan brosiect ledled Gwent gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan yr awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan a'r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel. Yng Nghasnewydd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian cyfatebol ar gyfer gosodiadau drwy'r gronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol. 

Mae'r pwyntiau gwefru wedi'u gosod a byddant yn cael eu rheoli gan Silverstone Green Energy o dan gynllun Gwefru’r Ddraig, a gwneir taliadau gyda cherdyn RFID neu drwy'r ap ffôn symudol.

Dywedodd y cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy, "Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i wneud ein dinas yn wyrddach, nid yn unig drwy ein gwaith i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030, ond hefyd drwy ymgymryd â mentrau seilwaith gwyrdd fel hyn.

"Rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn wedi treblu nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael i breswylwyr ac ymwelwyr, a gobeithiwn y bydd yn annog mwy o yrwyr yn y ddinas i ddewis cerbydau gwyrddach."

Dywedodd y cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd ac aelod cabinet y cyngor dros wasanaethau’r ddinas: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynyddu'n sylweddol y pwyntiau gwefru trydan sydd ar gael yn ein meysydd parcio diolch i'r cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn gam arall tuag at ein huchelgeisiau ehangach o greu amgylchedd iachach a gwyrddach."

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch pwynt gwefru agosaf ym maes parcio'r cyngor, ewch i Electric vehicle charge points

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.