Newyddion

Cefnogaeth hanfodol i geiswyr gwaith yn ne-ddwyrain Cymru

Wedi ei bostio ar Wednesday 26th August 2020
virtual jobs fair W

Bydd ffair swyddi rithwir ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Mercher 16 Medi i gysylltu ceiswyr gwaith, cyflogwyr a swyddi gwag ar draws de-ddwyrain Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal drwy sianeli Facebook Cymru'n Gweithio rhwng 11am ac 1pm a'i nod yw helpu unrhyw un sy'n edrych am swydd neu sydd â swydd i'w hysbysebu yn ardaloedd Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y digwyddiad ar-lein am ddim yn cael ei gynnal gan Cymru'n Gweithio, a weithredir gan Gyrfa Cymru, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Sgiliau Dinas-Ranbarth Caerdydd a thimau'r Ganolfan Byd Gwaith ar draws de-ddwyrain Cymru. Ymhlith y partïon eraill mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), darparwyr dysgu seiliedig ar waith, awdurdodau lleol a sefydliadau AB ac AU o bob cwr o'r rhanbarth.  

Bydd y mynychwyr yn cael mynediad i amrywiaeth eang o swyddi gwag o wahanol ddiwydiannau ar draws y rhanbarthau, gan gynnwys y meysydd iechyd, gofal, adeiladu a'r sector creadigol. Bydd gwybodaeth hefyd am brentisiaethau a hyfforddeiaethau ynghyd â chyngor arbenigol ar yrfaoedd i gefnogi pobl wrth iddynt chwilio am swydd.

Meddai Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru "Er bod y cyfyngiadau wedi'u codi ledled Cymru, mae ffeiriau swyddi wyneb yn wyneb traddodiadol yn dal i fod wedi'u gohirio neu eu canslo. Nawr, yn fwy nag erioed, mae ceiswyr gwaith a chyflogwyr yn dibynnu ar gymorth ar-lein i ddod o hyd i swyddi gwag a'u llenwi.

"Pleser o'r mwyaf felly yw gweithio gyda'n partneriaid yn ne-ddwyrain Cymru i gyflwyno'r digwyddiad hwn. Mae ein cyngor a'n cyfarwyddyd gyrfaoedd yn rhan hanfodol o gefnogi'r economi yn ystod y pandemig, ac mae'r digwyddiadau ar-lein hyn yn caniatáu i ni barhau i gyrraedd a chefnogi ein cwsmeriaid yn effeithiol ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Ariennir Cymru'n Gweithio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ac fe'i lansiwyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ym mis Mai 2019.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae'r gwasanaeth wedi cefnogi dros 37,000 o bobl ledled Cymru yn uniongyrchol. 

Gan siarad ar ran Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod o gabinet y Brifddinas-Ranbarth dros ddysgu, sgiliau a thalent: "Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn darparu pa bynnag gefnogaeth y gallwn ni i'r rhai sy'n chwilio am waith a hyfforddiant. Mae llawer o bobl mewn perygl o gael eu diswyddo neu wedi colli eu swyddi yn ystod y misoedd diwethaf ac mae'n gyfnod llawn straen iddyn nhw a llawer o bobl eraill mewn sectorau lle mae'r dyfodol yn ansicr.

"Fodd bynnag, mae cyfleoedd a thoreth o gyngor ar gael ledled y rhanbarth a thrwy weithio gyda'n gilydd, a chyda busnesau, gallwn sicrhau bod pobl sydd â'r sgiliau cywir yn cael eu paru â swyddi gwag neu'n gallu cael gafael ar yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i feithrin y sgiliau hynny.

"Rwy'n annog pobl i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael ac i beidio â cholli'r ffair swyddi rithwir a fydd yn dangos yr ystod eang o ragolygon cyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae gennym lawer o gwmnïau rhagorol, ffyniannus a blaengar sy'n chwilio amdanoch chi."

I gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, dilynwch Cymru'n Gweithio ar Facebook @CymrunGweithio. Os ydych yn gyflogwr sydd â swyddi gwag i'w llenwi, gofynnwn i chithau hefyd gysylltu â ni.

Ar gael i unrhyw un dros 16 oed, mae Cymru'n Gweithio yn darparu gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd cyflogadwyedd un i un wedi'i deilwra, sy'n cefnogi pobl ledled Cymru i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, hyfforddi ac uwchsgilio ynghyd â chymorth ar ôl colli swydd.

I gael mwy o wybodaeth am Cymru'n Gweithio ewch i: www.cymrungweithio.llyw.cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.