Newyddion

Cynlluniau gofal plant dros wyliau'r haf

Wedi ei bostio ar Friday 28th August 2020
childcare 5

Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd, gyda phlant a staff un o leoliadau gofal plant yr haf

Yn ystod gwyliau'r haf, mae dros 300 o blant wedi derbyn gofal a diddanwch mewn lleoliadau diogel ar gynlluniau sydd wedi'u cynnal gan Gyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid.

Tra oedd ysgolion ar gau, cafodd gofal ei ddarparu ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed trwy ddefnyddio cyllid Covid-19.

Fodd bynnag, daeth hyn i ben cyn gwyliau'r ysgol, felly penderfynodd y Cyngor gamu i'r adwy a pharhau â'r ddarpariaeth gofal plant hanfodol hon gan ddefnyddio rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru a chyfraniad gan Brifysgol De Cymru.

Sefydlwyd cynlluniau ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed a phump i ddeuddeg oed mewn lleoliadau ledled y ddinas yn ogystal â chynllun gofal arbenigol. Bu'r Cyngor yn gweithio gyda Duffryn Community Link, Clybiau Plant Cymru a Casnewydd Fyw i gynnig cynifer o leoedd â phosibl.

Dros bum wythnos, bu modd i dros 268 o blant gweithwyr allweddol ddefnyddio'r cynlluniau a chafodd dros 60 o blant agored i niwed leoedd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd, Jane Mudd:  "O'r sylwadau cadarnhaol niferus a gawsom, rwy'n gwybod bod ein darpariaeth gofal plant wedi cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan deuluoedd yn ystod y cyfnod cloi ac yn ystod y gwyliau.

"Mae gweithwyr allweddol yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at ein bywydau ac roedd yn bwysig ein bod yn sicrhau bod gan eu plant le diogel a dymunol i aros er mwyn i'r gweithwyr hyn allu parhau â'u gwaith hanfodol.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu parhau â'r cymorth hwnnw yn ystod gwyliau'r ysgol fel nad oedd rhaid i rieni yr oedd ei angen e arnyn nhw boeni am wneud trefniadau gwahanol.

"Hoffwn ddiolch i'r holl staff, a'n partneriaid, sydd wedi gweithio mor galed ac wedi darparu gofal plant mor arbennig, a hefyd Prifysgol De Cymru am ei chyfraniad caredig a hael."

Isod ceir rhai enghreifftiau o adborth am y ddarpariaeth:

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi a'ch tîm am y cymorth rydych chi wedi'i roi i'n teulu dros y mis diwethaf.   Mae'r merched wedi mwynhau eu hamser gyda chi yn fawr, ac rwyf i a'u tad wedi bod yn hapus iawn i adael ein plant yng ngofal y tîm, ac mae holl aelodau'r tîm rydyn ni wedi dod i gysylltiad â nhw wedi bod yn groesawgar ac yn barod i helpu." 

"Heboch chi bydden ni wir wedi ei chael hi'n anodd iawn dros y misoedd diwethaf."

"Diolch i chi gyd am eich caredigrwydd ac am wneud profiad fy merch o'r cyfnod cloi yn un llawn hwyl a chyffro."

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.