Newyddion

Llongyfarch myfyrwyr Casnewydd ar ganlyniadau arholiadau

Wedi ei bostio ar Thursday 13th August 2020

Heddiw, mae'r Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wedi llongyfarch myfyrwyr Casnewydd ar eu canlyniadau arholiadau, gan gydnabod yr amgylchiadau anodd a wynebai disgyblion oherwydd pandemig Covid-19.

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i'n disgyblion Safon Uwch ac UG, un na fydd yn rhaid ei hailadrodd fyth, gobeithio.

"Hoffwn ddymuno pob lwc i'n holl ddisgyblion wrth iddynt gymryd eu camau nesaf, pa un a ydynt yn symud i’r byd gwaith, yn ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi eraill neu'n aros mewn addysg.”

Dywedodd y Cynghorydd Gail Giles, yr Aelod Cabinet dros Addysg a sgiliau, "Hoffwn dalu teyrnged i'r gwytnwch a ddangoswyd gan ein disgyblion yn ystod yr adeg heriol hon, a hefyd eu hathrawon, staff a llywodraethwyr yr ysgol, yn ogystal â'r cymorth a gafwyd gan eu rhieni, eu gofalwyr a'u gwarcheidwaid.

 "Mae'r canlyniadau heddiw o dan amgylchiadau eithriadol ac rwyf hefyd yn dymuno pob llwyddiant i'n holl bobl ifanc. I’r rhai na chafodd y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, bydden i’n eu hannog i siarad â'u hathrawon a rhieni am yr holl opsiynau a'r cyfleoedd a fydd ar gael iddynt."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.