Newyddion

Hwb ariannol i adnewyddu Stadiwm Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 21st August 2020

Mae gwaith adnewyddu dros yr haf yn Stadiwm Casnewydd wedi cael hwb trwy grant gwerth dros £150,000.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Casnewydd Fyw yn gweithio mewn partneriaeth â Newport Harriers, Chwaraeon Cymru ac Athletau Cymru i wneud y gwaith adnewyddu a fydd yn cynnwys gosod cawell taflu newydd yn unol â manyleb Athletau’r Byd ac arwyneb polymerig newydd ar gyfer y trac a’r caeau yn ogystal â gwaith glanhau, atgyweirio a gosod marciau llinell, a hefyd adeiladu cawell taflu allanol newydd ac ardal newydd i’w defnyddio fel cyfleuster hyfforddi.  

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, "Bydd y gwaith adnewyddu dros yr haf o fudd i holl bartïon a defnyddwyr Stadiwm Casnewydd.

"Rydym yn ddiolchgar i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth, ac rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth gydweithredol gref hon yn parhau nid yn unig i wella cyfleusterau yng Nghasnewydd, ond i gefnogi a chynnal athletau fel camp blaenoriaeth yn y ddinas."

Mae tua £125,000 o'r arian wedi cael ei ddarparu gan Athletau Cymru, gyda £25,000 ychwanegol o gyllid 'Lle i Chwaraeon' yn cael ei ddarparu gan Chwaraeon Cymru ac £8,000 gan Newport Harriers. Mae Casnewydd Fyw hefyd wedi darparu cyllid a chefnogaeth mewn nwyddau i ddod â'r project yn fyw. Mae’r gwaith ar y gweill a disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn diwedd yr haf.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid am alluogi'r gwaith adnewyddu hwn yn Stadiwm Casnewydd. Bydd yn darparu gwell cyfleuster hyfforddi ar gyfer athletwyr elît Cymru yn ogystal â chlybiau a chwsmeriaid o'r gymuned leol. Edrychwn ymlaen at y cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig i athletau yn y ddinas wrth i ni barhau i ysbrydoli pobl Casnewydd a’r tu hwnt i gadw’n heini a chefnogi eu hiechyd a'u lles."

Dywedodd James Williams, Prif Weithredwr Athletau Cymru, "Rydym yn falch iawn bod y cydweithio hwn â Chyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, Newport Harriers, Chwaraeon Cymru a ninnau yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer athletau yn yr ardal. Bydd y datblygiad yn hwb mawr i athletau clwb a chymunedol yn lleol, yn ogystal â galluogi cystadlaethau lefel uchaf i ddychwelyd i Gasnewydd yn y dyfodol, gan helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.