Newyddion

Cyngor ar orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd

Wedi ei bostio ar Friday 28th August 2020

Dylai disgyblion ysgol uwchradd Casnewydd wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol o ysgolion uwchradd, ond dim ond lle na ellir cynnal ymbellhau cymdeithasol dros gyfnodau hir o amser.

Nid yw'n golygu y bydd yn rhaid i bob disgybl wisgo gorchuddion wyneb, ond bydd pob un ysgol yn penderfynu arno yn dilyn asesiad risg.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud y penderfyniad hwn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 26 Awst ac yn dilyn trafodaethau gyda phenaethiaid.

Mae pob ysgol wedi cwblhau asesiad Covid-19 penodol gyda'r nod o leihau faint o amser sydd ei angen ar ddisgyblion i fod y tu allan i'w grwpiau cyswllt gyda mesurau fel defnyddio un ystafell ddosbarth neu symud o un dosbarth i'r llall ar amseroedd gwahanol.

Ni fydd yn ofynnol i ddisgyblion nad ydynt mewn mannau cymunedol am gyfnodau hir wisgo gorchuddion wyneb.

Mae'r Cyngor yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ysgolion ar iechyd a diogelwch wrth iddynt ystyried a fydd angen gorchuddion wyneb pan fydd disgyblion yn dychwelyd yn llawn-amser y mis nesaf.

Ar gyfer unrhyw ysgol lle mae angen gorchuddion wyneb mewn mannau cymunedol, bydd y pennaeth yn rhoi hysbysiad ymlaen llaw i deuluoedd. Bydd ganddynt amser hefyd i ystyried pa ddisgyblion fydd yn cael eu heithrio rhag gwisgo gorchuddion wyneb a sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n ddiogel bob amser.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae'n bwysig nodi nad yw'r Cyngor yn cyfarwyddo pob disgybl oedran uwchradd i wisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol. Mae'n ymwneud â chymryd gofal ychwanegol os ydynt gyda'i gilydd mewn mannau cymunedol am gyfnod o amser.

"Byddem yn annog rhieni a gofalwyr i ddarparu gorchuddion wyneb y gellir eu golchi os oes modd. Bydd pob ysgol yn cynghori eu rhieni a'u gofalwyr a oes eu hangen.

"Y cyngor pwysicaf i bawb i atal haint yw hylendid dwylo ac arwynebau da ac ymbellhau cymdeithasol gan oedolion. Mewn ysgolion, byddant hefyd yn cynnal grwpiau ar wahân o blant a staff.

"Mae cyfraddau heintio yn eithaf isel ar hyn o bryd a gallwn helpu i sicrhau bod hynny'n parhau drwy ddilyn y rhagofalon hyn er ein diogelwch ni a diogelwch pobl eraill."

Bydd y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd yn parhau i gael ei adolygu wrth i'r pandemig barhau a gall cyngor newid yn dibynnu ar gyfraddau heintio.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.