Newyddion

Felly bydd y Glutton yn helpu i wella'r amgylchedd

Wedi ei bostio ar Monday 25th March 2019
Glutton for social media

Mae’r offer newydd sy’n cael ei ddefnyddio gan dîm glanhau Cyngor Dinas Casnewydd fel hwfer enfawr

Ydych chi wedi gweld y peiriant Glutton ar strydoedd Casnewydd?

Mae’r offer newydd sy’n cael ei ddefnyddio gan dîm glanhau Cyngor Dinas Casnewydd fel hwfer enfawr, ac mae modd ei adnabod o’i bibell hyblyg enfawr.

Mae’n golygu y gall godi sbwriel, dail ac, yn bwysicaf, bonion sigaréts o dan feinciau a dodrefn stryd ac o lefydd eraill sy’n anodd i’w cyrraedd.

Nid yw hidlwyr sigaréts yn fioddiraddadwy. Maent wedi’u gwneud o blastig sy’n golygu y gallant aros yn yr amgylchedd am hyd at 15 mlynedd.

Ac, oherwydd eu maint, mae un o bob 10 bonyn sigarét yn gorffen eu i daith yn ein dŵr ac ar yr arfordir, gan gyfrannu at lygredd plastig yn ein moroedd.

Felly bydd y Glutton yn helpu i wella’r amgylchedd, sy’n rhywbeth y mae’r cyngor bob amser yn ceisio ei wneud.

Gall y Glutton hefyd godi gwm cnoi os nad yw wedi cael ei sathru i mewn i’r ddaear.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.