Ffair swyddi boblogaidd y ddinas yn ei hôl y mis nesaf
Wedi ei bostio ar Friday 6th September 2019
Bydd ffair swyddi flynyddol Casnewydd yn digwydd yng Nghanolfan Casnewydd ddydd Mawrth 12 Medi o 10am tan 1pm.
Unwaith eto, bydd cannoedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddi ar gynnig yn y digwyddiad a drefnir gan Cyngor Dinas Casnewydd a'r Ganolfan Byd Gwaith.
Dyma'r cyflogwyr a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan eleni: Wilko; Adecco (yn recriwtio ar ran Amazon); Celtic Manor; BIPAB; CThEM; Newport Norse; Tesco ;Q Care; Coleg Gwent; MOD; Vibe Recruitment; Pure Gym; Trafnidiaeth Casnewydd; Avon; Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru;
GAVO; Utility Warehouse; Gwesty'r Marriot.
Yn 2018, aeth dros 2700 o bobl i'r ffair swyddi ac yn y blynyddoedd blaenorol, bu'r adborth gan y rhai a oedd yn chwilio am swyddi, y busnesau a'r darparwyr hyfforddiant yn dra chadarnhaol.