Newyddion

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, mae Arweinydd y Cyngor yn gwneud addewid i drafod hunanladdiad ymhlith dynion – a wnewch chi hynny hefyd?

Wedi ei bostio ar Tuesday 10th September 2019

Yn 2017, roedd 77 y cant o’r holl achosion o hunanladdiad yng Nghymru yn ddynion - mae’n ystadegyn arswydus a sbardunodd ddull newydd o annog dynion i ofyn am gymorth.

 

Gan weithio gyda’r Aelod Cynulliad, Eluned Morgan ac elusennau iechyd meddwl lleol, mae'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn canolbwyntio ar feithrin gwydnwch cymunedol i roi pen ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael.

 

Mae data yn dangos fod dynion yn llai tebygol na merched i chwilio am help neu fynegi meddyliau iselhaol neu hunanladdol. 

 

 “Mae achosion o hunanladdiad bob amser yn ddifrifol gymhleth", meddai’r Cynghorydd Wilcox, “Mae’n rhaid i ni wynebu’r duedd ddiamheuol hon o hunanladdiad ymhlith dynion, gan ddechrau drwy herio’r safbwyntiau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, a'i wneud yn bwnc y gallwn oll ei drafod."

 

Lluniwyd #IPlIPledge2Talk i wneud hynny. Mae’r ymgyrch yn annog bod yn agored o ran chwilio am gymorth ac yn rhoi mwy o hyder i bobl ymyrryd os ydynt yn pryderu bod rhywun mewn perygl. Wrth wraidd yr ymgyrch mae cerdyn addewid, adnodd a ddatblygwyd gan elusen Mind, mewn ymateb i bryder cynyddol am gyfraddau hunanladdiad.

 

I nodi Diwrnod Hunanladdiad y Byd, cyflwynodd y Cynghorydd Wilcox y neges gerbron y cyngor llawn, gan benodi ‘eiriolwr iechyd meddwl’ newydd a rhoi cynnig gerbron i hybu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ledled cymunedau, ysgolion, cymdogaethau gweithleoedd Casnewydd.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae pob hunanladdiad yn drasiedi. Mae’n bwysig cofio bod sawl ymgais i gyflawni hunanladdiad ynghlwm wrth bob marwolaeth - mae'r effaith ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau yn ddinistriol ac yn bellgyrhaeddol, ond gallwn, ac mae'n rhaid i ni, wneud mwy i atal y marwolaethau hynny.

 

 “Rydym yn gobeithio dosbarthu’r cardiau mewn cynifer o fannau â phosibl a sicrhau bod siarad am broblemau iechyd meddwl yn rhywbeth cyffredin. Mae gwasanaethau cymorth ar gael ym mhob rhan o Gasnewydd a Chymru, yn goleuo’r ffordd i’r sawl sydd ei angen. Ond nid yw meddu ar yr hyder i chwilio am help yn hawdd bob amser. Mae’r ymgyrch #IPledge2Talk yn trafod sut y gallwn oll chwarae ein rhan i helpu’r rhai sydd ei angen, i gael y cymorth y maent ei angen ac yn ei haeddu.

 

Mae’r Cynghorydd Wilcox yn annog trigolion i wneud eu haddewidion eu hunain gan ddefnyddio’r hashnod #IIPledge2Talk a lledaenu’r neges mor bell â phobl - mae siarad yn gallu achub bywydau.

 

www.ipledge2talk.wales/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.