Newyddion

Casnewydd yn dathlu hanes menywod

Wedi ei bostio ar Monday 23rd September 2019
Mosaics workshop 2

Cafodd gweithiau celf diweddaraf Casnewydd, yn dathlu dros 100 mlynedd o gyflawniadau menywod, eu datgelu.

Ariannwyd y project Hanes Menywod, yn Rhodfa Sant Paul, Commercial Street, gan y Loteri Dreftadaeth Genedlaethol.

Comisiynodd Cyngor Dinas Casnewydd yr artist Stephanie Roberts i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol ar y gwaith o ddylunio a chreu'r chwe mosaig sy'n anrhydeddu menywod lleol, gan gynnwys Siartwyr a swffragetiaid, yn ogystal â modelau rôl mwy diweddar.

Mae'n ymuno â gwaith mosaig arall a gafodd ei osod yn y safle'r llynedd i goffáu rôl menywod Casnewydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Whitcutt, Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae'r mosaigau yn adrodd stori rôl newidiol menywod Casnewydd o'r Siartwyr hyd at heddiw.  Wrth i ni sefyll gyferbyn ag Eglwys St Paul gynt ar Commercial Street, cofiwn y cysylltiad unigryw yr oedd gan y menywod hyn â'r eglwys, yr ardal leol a Chasnewydd, gan fod rhai ohonyn nhw wedi bod yn gofalu am y cleifion a'r anafedig pan oedd St Paul yn ysbyty Croes Goch dros dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 "Hoffwn hefyd ddiolch i Stephanie ac i bawb sydd wedi cyfrannu - a'u llongyfarch am greu cofeb mor wych sy'n portreadu llawer o'r rolau a gyflawnwyd gan fenywod a'u penderfyniad digamsyniol ac ymrwymiad cadarn i sbarduno newid."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Thai: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r project gwych hwn sy'n cydweddu gystal â'r Mosaigau Rhyfel Byd Cyntaf ar y wal gyferbyn.

 "Mae'r naill a'r llall yn anrhydeddu menywod amrywiol iawn sydd wedi cyflawni rôl hollbwysig yng ngorffennol a phresennol Casnewydd, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

 "Diolch hefyd i bawb a wnaeth y digwyddiad agoriadol yn un mor arbennig, gan gynnwys Cwmni Theatr Tin Shed am eu perfformiad, a Mind Casnewydd."

Helpodd Ysgol Gynradd Gatholig Mihangel Sant i ddylunio a chreu'r mosaig i anrhydeddu'r menywod hyn.

Bu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon gwrdd â Natasha Cockram, yr athletwraig a enillodd ras y menywod ym marathon cyntaf Casnewydd, cyn dechrau'r gwaith ar eu mosaig yn adlewyrchu menywod yn y byd chwaraeon.

Roedd Ysgol Gynradd Pillgwenlli ynghlwm wrth y gwaith celf yn ymwneud â gweithwyr oedd yn fenywod a rhoddodd Peter Strong wybodaeth iddyn nhw ar ffatrïoedd arfau Casnewydd yn ystod y rhyfel, a'r effaith y mae'r gweithlu blaengar hwnnw wedi'i chael ar gymdeithas heddiw.

.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.