Newyddion

Ardal ymarfer corff newydd i gael ei hagor yng Nghartref Cŵn Dinas Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 24th September 2019
RSPCA award presentation Newport City Dogs Home 23 Sept

Lindsay Horth, Debbie Hayward, Susie James ,Lesley Sperinck, Nicola Rosendale, Paris Head, Councillor Ray Truman yn y cyflwyniad gwobrau

Disgwylir i barc ymarfer corff i gŵn – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – gael ei agor gan Gyngor Dinas Casnewydd diolch i gyfraniad hael gan y partneriaid elusen, Friends of the Dogs Wales.

Mae’r safle dwy erw sydd ynghlwm wrth Gartref Cŵn Dinas Casnewydd ym Mharc Coronation yn Stephenson Street yn agos at y Bont Gludo eiconig.

Mae’r ardal ymarfer corff wedi’i defnyddio’n rhan o dreial gan dîm y cartref cŵn a’i grŵp cerdded gwirfoddol partner, a drefnir gan Opt to Adopt yng Nghasnewydd, i roi ymarfer corff i gŵn strae ac wedi’u gadael y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. 

A’r wythnos hon, cafodd eu gwaith caled o gychwyn y project ei gydnabod gan RSPCA Cymru a roddodd i’r cartref Wobr Arloeswr am y cynllun.

Hefyd cafodd y cartref wobr Aur RSPCA Cymru yn adran Ôl-troed Cŵn Strae y gwobrau PawPrints blynyddol.

Ar ôl i’r parc ymarfer corff gael ei agor yn ffurfiol i drigolion Casnewydd sydd â chŵn sy’n agored i niwed, er enghraifft cŵn sy’n debygol o redeg i ffwrdd, sy’n swil ac a allai gael eu hymosod arnynt gan gŵn eraill neu i’r rheiny sydd â chi gyda phroblemau ymddygiadol neu sy’n ymosodol, bydd y cyfleuster yn cynnig amgylchedd diogel lle gall y ci redeg yn rhydd.

Bydd perchenogion cŵn yn gallu trefnu dyddiad ac amser a thalu i ddefnyddio’r maes ar-lein.

I roi hwb i’r clynllun, gofynnir i berchenogion cŵn gofrestru eu diddordeb.

Llongyfarchodd y Cynghorydd Ray Truman, yr aelod cabinet dros drwyddedu a rheoleiddio, staff a gwirfoddolwyr am gael y gwobrau a chanmolodd bawb am eu gwaith caled o ran sicrhau bod y cytiau cŵn yn cael eu rhedeg heb broblemau a bod cŵn nad oes eu heisiau’n cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae’r ardal ymarfer corff newydd yn ased gwych i’r cartref cŵn a hoffwn ddiolch i’n partneriaid elusen, Friends of the Dogs Wales ac Opt to Adopt Casnewydd am ein helpu ni i gyflawni hyn.

“Rydym yn gwybod bydd yr ardal hon yn cynnig lle diogel i berchenogion cŵn a’u hanifeiliaid anwes ymarfer corff ynddo heb boeni am beidio â chael eu cŵn ar dennyn ac efallai’n rhedeg i ffwrdd neu fod yn berygl i gŵn/pobl eraill.

“Hefyd mae gwobrau RSPCA yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled parhaol sy’n cael ei wneud gan ein staff sy’n sicrhau bod cŵn strae’n cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, rydyn ni hefyd yn falch o nifer y cŵn sy’n gallu cael eu hail-gartrefu,” meddai’r Cyng. Truman.<0}

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn ystod dathliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan yr AC Lesley Griffiths, y gweinidog dros yr amgylchedd, ynni a materion gwledig ar 23 Medi.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.