Newyddion

Mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydanol yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 30th September 2019
Electric car charging at civic 1

Mae disgwyl i Gasnewydd gael 16 o bwyntiau gwefru ychwanegol ledled y ddinas diolch i gyllid.

Mae awdurdodau lleol Gwent wedi llwyddo i gael £459,000 gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (SCAL) i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol mewn meysydd parcio mewn ardaloedd preswyl.

Diolch i’r cyllid bydd yr awdurdodau lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen) yn gweithio tuag at osod seilwaith gwefru cerbydau trydanol ledled meysydd parcio'r awdurdod lleol yn Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas: “Mawr yw ein diolch am y cyllid hwn fydd yn ein galluogi i ehangu nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael yng Nghasnewydd ac i gefnogi ein dyheadau ehangach i greu amgylchedd iachach a gwyrdd.

 “Fel Cyngor, rydym wedi cyflwyno cerbydau trydanol i’n fflyd ac yn gobeithio drwy fod â mwy o bwyntiau gwefru yng Nghasnewydd a ledled Gwent, byddwn yn annog preswylwyr i symud at opsiynau cerbyd mwy cynaliadwy.”

Bydd y pwyntiau gwefru cerbydau trydanol yn cael eu gosod mewn meysydd parcio ger ardaloedd preswyl i gefnogi preswylwyr sydd heb barcio oddi ar y stryd i symud at gerbydau trydanol. Bydd manylion pellach ar y lleoliadau i ddilyn.

Y nod yw mynd ar ôl y rhwystrau o ran nifer y bobl mewn ardaloedd preswyl sy'n manteisio ar gerbydau trydanol gan nad oes ganddynt gyfleusterau parcio oddi ar y stryd (h.y. dim rhodfa neu fodurdy lle byddai modd gwefru cerbyd trydanol).

Mae lleoliadau meysydd parcio yng Nghasnewydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd ac ar ôl penodi contractwyr, dylai’r pwyntiau newydd fod ar waith yn ystod Gwanwyn 2020.

Cafodd y bid ar y cyd ei gyflwyno gan yr awdurdodau gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Mae'r project hefyd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wnaeth ariannu astudiaeth o ddichonoldeb.   

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.