Newyddion

Cyfri'r dyddiau tan Ŵyl Fwyd Casnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 30th September 2019
Hywel Jones FF patron cropped

Noddwr yr ŵyl a’r pen-cogydd Hywel Jones

Mae Casnewydd yn paratoi i groesawu miloedd o bobl i’r ddinas dydd Sadwrn yma ar gyfer Gŵyl Fwyd flynyddol Casnewydd. 

Mae’r digwyddiad, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn, wedi denu mwy na 75 o stondinau a fydd yn arddangos amrywiaeth eang o’r bwyd Cymreig gorau a diodydd arbenigol.

Ac i’r rhai ohonoch sy’n hoff o fwyd da, un o’r ffyrdd gorau o brofi’r hyn sydd ar gael yw drwy fynd i weld un o’r arddangosiadau niferus gan ben-cogyddion mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y ddinas.

Mae’r arddangosiadau’n dechrau gyda rownd derfynol Teenchef, a noddir gan Celtic Manor, gyda phobl ifanc yn arddangos eu sgiliau coginio gorau mewn cystadleuaeth a gynhelir ym Marchnad Casnewydd o 11am.

Noddwr yr ŵyl a’r pen-cogydd Hywel Jones o Westy a Spa Lucknam Park fydd yn dechrau’r arddangosiadau gan uwch ben-cogyddion, hefyd ym Marchnad Casnewydd, o hanner dydd gyda Matt Waldron o Stackpole Inn yn paratoi i ddangos ei sgiliau am 1pm ac Adam Whittle o Newbridge on Usk yn ei ddilyn am 2pm.

Yn dod â’r arddangosfeydd i ben yn y farchnad am 3pm bydd Ben Periam, The Pod.

Bydd swyddfeydd Pobl Group yn y Stryd Fawr hefyd yn cynnal arddangosiadau coginio gyda phum pen-cogydd yn dod ei ddangos eu doniau ar y dydd.

Mae’r hwyl yn dechrau am 11.30am gyda Anil Karhadkhar o Curry on the Curve, a ddilynir gan James Sommerin yn cynrychioli ei fwyty ei hun gydag arddangosfa am 12.30pm.

Bydd Anthony Miller o fwyty Wagamama’r ddinas yn camu ar y llwyfan am 1.30pm ac yna bydd Steve White, The Sorting Rooms yn coginio o 2.30pm.  Yn dilyn bydd Gavin Horton o Horton’s Coffee ynghyd â Clifton Coffee yn arddangos sgiliau celfyddyd coffi.

Bydd Gavin yn dod atom ar ôl cynnal arddangosiadau yn ei siop goffi ei hun dros Bont Droed y Ddinas yn gynharach yn ystod y dydd am 11am, hanner dydd a 1pm.

Bydd Friars Walk hefyd yn brysur gydag arddangosiadau gan ben-cogyddion yn cyflwyno amrywiaeth eang o sgiliau coginio.

Am 11am bydd No Bones Jones yn coginio gydag ail arddangosiad gan un o ben-cogyddion Wagamama ar y llwyfan o hanner dydd.

Bydd seren y rhaglen deledu Dirty Vegan, Matt Pritchard yn Friars Walk ar y llwyfan arddangosiadau am 1pm gyda seigiau y bydd llawer wedi’u gweld ar ei sioe boblogaidd.

Am 2pm bydd pen-cogyddion o Las Iguanas yn camu ar y llwyfan gyda phen-cogyddion o Chiquitos yn eu dilyn am 3pm.  Bydd yr arddangosiad yn dod i ben gyda Lisa Fearn, Y Sied am 4pm.

Gyda chymaint o dalentau gwych yn yr ŵyl fwyd bydd rhywbeth yn sicr o blesio pawb.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.