Newyddion

Arweinydd y Cyngor yn cael ei gwneud yn arglwyddes am oes

Wedi ei bostio ar Wednesday 11th September 2019
DebbieWilcox

Mae'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn cael ei gwneud yn arglwyddes am oes yn dilyn cael ei chynnwys yn y rhestr anrhydeddau ar achlysur nodi ymddeoliad Theresa May.

 "Ar ran y cyngor, hoffwn longyfarch y Farwnes Wilcox o Gasnewydd ar y gydnabyddiaeth hon o'i gwasanaeth a'i chyflawniadau niferus  ym maes llywodraeth leol.

 "Mae hi wedi bod yn gwasanaethu'r cyhoedd am flynyddoedd lawer, fel athrawes yn y lle cyntaf ac, ers 2004, yn cyfuno'r rôl honno gyda'r gwaith o gynrychioli ward y Gaer fel cynghorydd dinas. Gwasanaethodd fel aelod cabinet o 2012 cyn cael ei hethol yn arweinydd benywaidd cyntaf y cyngor ym 2016.

 "Ym mis Mehefin 2017, penodwyd y Cynghorydd Wilcox yn arweinydd benywaidd cyntaf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae'n cynrychioli Cymru fel aelod o Weithrediaeth y Gymdeithas Lywodraeth Leol.

 "Mae hi'n gennad gwych i Gasnewydd a Chymru, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael llais ar bob lefel, ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny yn ei rôl fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.