Gwobrwyo Cyngor am gefnogi'r Lluoedd Arfog
Wedi ei bostio ar Monday 2nd September 2019
Mae Cyngor Dinas Casnewydd ymhlith y cyflogwyr a gydnabyddir am roi cefnogaeth arbennig i gymuned y Lluoedd Arfog gan y Gweinidog Amddiffyn Ben Wallace.
Caiff Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, anrhydedd fwyaf y Weinidogaeth dros Amddiffyn i'r sawl sy'n cyflogi ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Mae cyflogwyr wedi ennill gwobrau am fentrau megis cyflogi cyn-filwyr, cefnogi unigolion sy'n symud o'r lluoedd arfog i yrfa newydd a rhoi hyblygrwydd i Filwyr Wrth Gefn.
Cydnabuwyd y 100 enillydd am eu hymrwymiad hirdymor i'r Lluoedd Arfog, gyda chwmnïau o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn cyflawni'r sgôr uchaf.
Meddai Ben Wallace: "Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y gefnogaeth ragorol a roddir i'n lluoedd arfog gan gyflogwyr ledled Prydain a hoffwn ddiolch a llongyfarch i bob un ohonynt.
"Waeth beth eu maint, lleoliad neu sector, mae cyflogi cyn-bersonél yn dda i fusnes, ac eleni rydym wedi dyblu nifer y gwobrau i gydnabod y gefnogaeth ryfeddol a roddir."
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr Johnny Mercer: "Mae cyn-filwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i fusnesau ledled y wlad ac mae'n wych gweld y nifer fwyaf erioed o sefydliadau'n cael eu cydnabod am eu cymorth.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda busnesau i'w helpu i ddeall ymhellach y gwerth enfawr y gall cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a phartneriaid milwrol ei roi i'w sefydliad."
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid o'r gwasanaethau cyhoeddus, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill i gefnogi aelodau ddoe a heddiw y lluoedd arfog.
Llofnododd Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog yn 2016.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/About-Newport/Armed-forces/Armed-forces.aspx