Y ddinas yn barod i groesawu miloedd o ymwelwyr i Ŵyl Fwyd Casnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 27th September 2019
Darperir adloniant stryd gan y Gwenyn, Menywod ( yn y llun) y Gacen a Ieir y Gwanwyn
Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan Gŵyl Fwyd Casnewydd eleni – sydd â mynediad AM DDIM – rydym yn paratoi at groesawu miloedd o ymwelwyr i ganol y ddinas.
Rhowch ddydd Sadwrn, 5 Hydref, yn eich dyddiadur i sicrhau nad ydych yn colli digwyddiad mwyaf calendr Cyngor Dinas Casnewydd.
Bydd mwy na 75 o stondinau ar hyd y Stryd Fawr y tu mewn i Farchnad Casnewydd, gyda mwy o stondinau a digwyddiadau ar hyd Friars Walk a Pobl, ynghyd â thu mewn i Siop Goffi Horton.
Bydd y digwyddiad, sydd â chefnogaeth AGB Casnewydd, y Celtic Manor, a Friars Walk yn agor am 9am.
Darperir adloniant stryd gan y Gwenyn, Menywod y Gacen a Ieir y Gwanwyn fydd yn perfformio yn ystod y dydd rhwng 10.15am a 3.45pm.
Bydd grŵp Dechrau’n Deg y Cyngor yn cynnal gweithdy celf a stensilau wynebau i’r rhai bach yn yr Oriel ym Marchnad Casnewydd o 11am tan 4pm, a chadwch lygad am y Cogydd Hud fydd yn cerdded o amgylch yr ŵyl rhwng 11am a 4pm yn creu modelau balŵns.
Bydd Côr Cymunedol Casnewydd hefyd yn canu – a gall ymwelwyr ymuno hefyd – yn yr Oriel ym Marchnad Casnewydd am 12.45pm, 1.15pm a 1.45pm.
Uchafbwynt arall yr ŵyl yw’r arddangosiadau gan gogyddion fydd yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad gwahanol ledled y ddinas.
Cadwch lygad am y rhaglen fydd yn cael ei rhyddhau yn y dyddiau nesaf, i weld pwy fydd ym mhle.