Diolch i'n noddwyr
Wedi ei bostio ar Thursday 3rd October 2019
Hoffai Cyngor Dinas Casnewydd ddiolch i gefnogwyr a noddwyr Gŵyl Fwyd Casnewydd eleni, sydd ar ddydd Sadwrn 5 Hydref.
Mae dros 75 o stondinwyr wedi cofrestru i’r diwrnod i sicrhau y bydd amrywiaeth eang o fwyd a diod o safon ar werth i’r miloedd o ymwelwyr a ddisgwyliwn.
Bydd hefyd ddigwyddiadau ym Marchnad Casnewydd, pencadlys Pobl, Siop Goffi Horton’s a Phlas Gwy a Sgwâr John Frost ar Friars Walk.
Mae AGB Casnewydd Nawr yn un o noddwyr yr ŵyl ac mae ganddynt ardal NOW Casnewydd yn ardal oriel marchnad Casnewydd lle bydd arddangosiadau gan gogyddion.
Dywedodd Kevin Ward, rheolwr AGB Casnewydd Nawr: “Hon yw’r drydedd flynedd y mae Ardal Gwella Busnes Casnewydd wedi noddi’r ŵyl ac mae’n bleser parhau â’r bartneriaeth.
“Fel y cwmni dielw preifat a ariennir ac a redir gan fusnesau canol dinas Casnewydd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr ŵyl yng nghalendr digwyddiadau’r ddinas.
“Mae’n cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas yn sylweddol. Mae llawer o aelodau’r AGB yn cymryd rhan yn yr ŵyl ac mae buddion deilliannol i economi gyffredinol canol y ddinas.
“Gobeithio y bydd pobl sy’n dod i’r ŵyl yn cael diwrnod i’r brenin ac yn ymweld â rhai o’r siopau gwych yma hefyd.”