Newyddion

Agor Gardd y Cofio

Wedi ei bostio ar Thursday 31st October 2019
Remembrance garden image

Mae’r gwasanaeth coffa blynyddol sydd yn nodi agoriad ffurfiol yr Ardd Goffa ger Senotaff Casnewydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Llun 4 Tachwedd am 10.45am.

Mae’r Lleng Brydeinig yn cydlynu’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnal yn draddodiadol ar y Dydd Llun cyn y Prif Orymdaith a Gwasanaeth Dydd y Cofio.

Bydd caplan y Lleng, Keith Beardmore, yn llywyddu yn y digwyddiad lle disgwylir i gyn-filwyr rhyfel y ddinas fynychu, ynghyd â Chludwyr Baneri, aelodau o’r Lleng Brydeinig a phwysigion lleol gan gynnwys aelodau cabinet Cyngor Dinas Casnewydd a James Harris, cyfarwyddwr strategol pobl y cyngor.

Bydd y Maer, y Cynghorydd William J Routley, yn cyflwyno anerchiad byr ac yn gosod y groes gyntaf.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu’r gwasanaeth byr hwn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.