Newyddion

Mae Diwrnod Gwybodaeth 50+ Casnewydd yn dychwelyd fis nesaf

Wedi ei bostio ar Tuesday 1st October 2019

Bydd cyfoeth o wybodaeth a chyngor ar gael yn nigwyddiad 50+ poblogaidd y ddinas yng Nghanolfan Gasnewydd ddydd Sadwrn 19 Hydref.

Mae mynediad am ddim i'r digwyddiad blynyddol, a drefnir gan dîm cysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd.

Bydd mwy na 100 o stondinau yn y ganolfan rhwng 10am a 3pm yn cynnig cyngor gan gynnwys gwasanaethau ariannol a chyfreithiol; gweithgareddau hamdden; iechyd; dysgu a gwirfoddoli; diddordebau; tai ac addasiadau.

Bydd lluniaeth ar gael ac mae'r fforwm Casnewydd 50+ yn cynnal raffl.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, aelod cabinet y Cyngor dros y gwasanaethau cymdeithasol: "Hoffwn ddiolch i bawb sy'n dod i'r digwyddiad i gynnig cymorth arbenigol a phroffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd.

"Mae diwrnodau gwybodaeth wedi cael eu cynnal am nifer o flynyddoedd, ac maen nhw wedi'u teilwra'n benodol i breswylwyr 50 oed a hŷn, ac mae ymwelwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.