Cystadleuaeth Glasgogyddion Gŵyl Fwyd Casnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 4th October 2019
Mae cogyddion ifanc yn paratoi at fynd i’r gad pan fyddan nhw’n arddangos eu doniau coginio yfory yn y gystadleuaeth Glasgogyddion sy’n rhan o Ŵyl Fwyd Casnewydd (Dydd Sadwrn 5 Hydref).
Mae dau dîm yn cystadlu o Academi Ieuenctid Casnewydd yn y rownd derfynol eleni, yn cynrychioli Dwyrain Casnewydd a Gogledd Casnewydd.
Maen nhw wedi dewis yr enwau ‘The A Team’ a’r ‘NYA’.
Mae pedwar person ymhob tîm, dan arweiniad arweinydd tîm, a bydd gan y ddau dîm 45 munud yr un i goginio pryd.
Y beirniaid sydd â’r dasg anodd o ddewis enillydd yw Hywel Jones, Noddwr yr Ŵyl Fwyd, cogydd o’r Celtic Manor, sy’n noddi’r gystadleuaeth, y Cynghorydd David Mayer a’r Cynghorydd William J Routley, Maer Casnewydd.
Mae thema cystadleuaeth eleni’n seiliedig ar y gwledydd sy’n cystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd.
Dywedodd cyfarwyddwr coginio Gwesty’r Celtic Manor, Peter Fuchs: “Rydym wrth ein bod yn noddi’r gystadleuaeth ar gyfer glasgogyddion eto eleni, a rhoi hwb i’r genhedlaeth nesaf o dalent coginio yn y ddinas.
“Mae safon y bwyd mae’r cogyddion ifainc hyn wedi ei gynhyrchu dros y blynyddoedd diwethaf wedi creu argraff fawr, yn enwedig o gofio’r cyfyngiadau ar amser a chyllideb.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r panel beirniadu yng Ngŵyl Fwyd Casnewydd a gweld beth fydd gan y bobl ifanc i’w gynnig eleni.”
Bydd rownd derfynol y gystadleuaeth am 11am yn ardal Oriel Marchnad Casnewydd.
Mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn helpu oedolion ifainc nad ydyn nhw mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant i wella’u sgiliau drwy raglenni a chyfleoedd dysgu.
Mae cyfle i’r bobl ifanc sy’n rhan o’r Academi gymryd rhan mewn project sydd wedi ei ariannu gan y llywodraeth ac sydd â’r nod o roi cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau sy’n angenrheidiol i gael swydd, ymgymryd â dysgu ffurfiol pellach neu fynd ar brentisiaeth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf aeth 80 y cant o’r myfyrwyr a adawodd yr Academi yn eu blaen i addysg bellach neu i swydd, ac roedd y rhan fwyaf o’r rheiny wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau.