Troi Canolfan Ddinesig Casnewydd yn binc ac yn las i Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod
Wedi ei bostio ar Wednesday 9th October 2019
Caiff Canolfan Ddinesig Casnewydd ei goleuo’n binc a glas o 9 i 15 Hydref i ddangos cefnogaeth y ddinas i Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 2019.
Mae’r wythnos ymwybyddiaeth flynyddol, bellach yn ei 17eg flwyddyn, yn gyfle i rieni, teuluoedd a ffrindiau mewn profedigaeth i gofio bywydau babanod a chodi llais ynghylch beichiogrwydd a cholli babanod yn y DU.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: “Mae’n anrhydedd gallu cefnogi’r achos hollbwysig hwn a gobeithiwn y bydd troi'r Ganolfan Ddinesig yn binc a glas yn ysgogi sgyrsiau am golli babanod ac yn rhoi cyfle i rieni a theuluoedd lleol mewn profedigaeth siarad am eu hannwyl fabanod.
“Hoffwn ddiolch i Newport Norse a’r cwmni SLX sydd wedi helpu i gyflawni hyn.”
Bydd yr adeiladau a’r tirnodau sy’n troi’n binc a glas i Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 2019 ar y map rhyngweithiol a’r albwm Facebook . Anogir trigolion i rannu eu ffotograffau o’r Ganolfan Ddinesig ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #BLAW2019.
Meddwi Dr Clea Harmer, Prif Weithredwr Sands (elusen marwenedigaethau a marwolaethau ôl-eni): “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle arbennig i rieni gofio eu babanod a fu farw, a gobeithio y bydd teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghasnewydd yn gweld y Ganolfan Ddinesig yn binc a glas yn teimlo’n llai unig yn eu galar.
“Mae colli beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn drasiedi sy’n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn. Mae’n drychineb i rieni a theuluoedd ac mae’n hollbwysig iddynt gael y cymorth a’r gofal profedigaeth sydd eu hangen arnynt, gyhyd ag y bo’u hangen arnynt.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ewch i:
www.babyloss-awareness.org