Penodi Prif Weithredwr newydd dros dro
Wedi ei bostio ar Tuesday 1st October 2019
Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a Sheila Davies
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penodi Sheila Davies yn brif weithredwr dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae gan Sheila dros 25 mlynedd o brofiad o weithio mewn llywodraeth leol a'r sector datblygu economaidd ac adfywio.
“Gan ei bod wedi gweithio’n flaenorol i’n hawdurdod ni mewn rôl strategol, a bod ganddi record heb ei ail yn cyflawni projectau mawr i'r ddinas, rydym wrth ein bodd yn ei chroesawu hi 'nôl.
“Mae hwn yn gyfnod o newid mawr i Gyngor Dinas Casnewydd, felly roeddwn am wneud yn siŵr bod rhywun cryf yn arwain ein Huwch Dîm Rheoli, gan sicrhau ein bod mewn lle da i barhau gyda’r gwaith gwych o adeiladu Casnewydd well. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni ystyried yn ofalus benodiad parhaol."
Yn ei rôl fel cyfarwyddwr rhaglen gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bu’n arwain ar y paratoadau i weithredu’r Fargen £1.25bn rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r 10 awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru.
Ers gadael y swydd honno mae wedi gweithio fel ymgynghorydd arbenigol ac ymgynghorydd allanol.
Fel cyfarwyddwr strategol-lleoliadau yng Nghyngor Dinas Casnewydd am saith mlynedd, bu’n gyfrifol am wasanaethau strydlun a dinesig, buddsoddi mewn adfywio a gwasanaethau tai, gwasanaethau cwsmeriaid, trosolwg o Gyd-Fenter Newport Norse ar gyfer yr holl wasanaethau eiddo, a Casnewydd Fyw, ymddiriedolaeth hamdden y ddinas.
Fel rhan o’r Uwch Dîm Rheoli roedd hefyd â rhan ymhob datblygiad strategol yn y cyngor.
Dywedodd Ms Davies am gael ei phenodi: “Rwyf wrth fy modd i fod yn rhedeg Casnewydd - mae’n ddinas wych gyda photensial mawr. Edrychaf ymlaen at ddefnyddio fy ngwybodaeth eang am lywodraeth leol, Casnewydd yn benodol, a’r heriau ehangach sy’n wynebu'r rhanbarth a llywodraeth leol at y dibenion gorau, gan helpu pob rhan o’r cyngor i symud ymlaen dros y misoedd nesaf.”
Aeth y cyngor ati i benodi Prif Weithredwr dros dro ar ôl i Will Godfrey adael. Gwnaed y penodiad gan banel o aelodau trawsbleidiol.
Bydd Ms Davies yn dechrau ar ei gwaith ddydd Llun 7 Hydref am gyfnod o chwe mis i ddechrau.