Newyddion

Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol ar batrol

Wedi ei bostio ar Friday 4th October 2019

Gyngor Dinas Casnewydd

Mae Wardeniaid Diogelwch Cymunedol a gyflogir gan Gyngor Dinas Casnewydd i fod yn fwy gweladwy ar strydoedd y ddinas o Ddydd Llun 7 Hydref.

Mae newid o ran patrymau shifft wedi eu cyflwyno fel y gallant dreulio mwy o riau yn ystod golau ddydd yng nghanol y ddinas a mannau allweddol eraill yn y ddinas.

Mae Wardeniaid Diogelwch Cymunedol yn ymateb i gwynion am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, niwsans sŵn, sbwriela a bawa gan gŵn.

Byddant yn gweithio o 1pm tan 10pm saith diwrnod yr wythnos a byddant ar batrôl ardaloedd o’r ddinas i fynd i’r afael â phryderon a godwyd gan y cyhoedd.

Eir i’r afael â chwynion a gaiff eu gwneud i wardeniaid ar ddiwedd shifft waith ar y diwrnod canlynol.<0}

Dwedodd aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros drwyddedu a rheoliadau, y Cynghorydd Ray Truman, ei bod yn bwysig fod wardeniaid yn weladwy, yn enwedig yng nghanol y ddinas.

Diogelwch Cymunedol yn gwneud gwaith gwiw yn ymateb i gwynion gan y cyhoedd, yn enwedig os yw’n ymwneud ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a chredwn ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu gweld gan y cyhoedd er mwyn rhoi cysur.<0}

Bydd y gwasanaeth a gaiff ei chynnal gan y Cyngor hefyd yn derbyn cwynion yma  [email protected], drwy’r ffôn ar 01633 656656 o 8am hyd 6pm ac wedi 6pm ar 01633 656667.

Gall y cyhoedd hefyd adrodd am ddigwyddiadau drwy wefan y cyngor, ewch i Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol<0}

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.