Cadarnhau Arweinydd newydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 26th November 2019
Cadarnhaodd Cyngor Dinas Casnewydd mai’r Cynghorydd Jane Mudd yw Arweinydd newydd y cyngor yn ystod cyfarfod llawn.
Mae’r Cynghorydd Mudd yn olynu’r cyn-Arweinydd, Barwnes Wilcox o Gasnewydd, sydd wedi sefyll i lawr ar ôl cael ei dyrchafu i’r urddolaeth.
Dywedodd aelod ward Malpas, sydd wedi bod yn Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai ers 2017: “Mae’n anrhydedd mawr i arwain y Cyngor ac edrychaf ymlaen at wasanaethu’r cyngor a’r ddinas.
“Cefais fy magu yng Nghasnewydd, yn mynd i ysgolion lleol, ac rwyf wedi magu fy nheulu yma yn y ddinas felly mae ei gorffennol, yr oes sydd ohoni a’i dyfodol yn bwysig iawn i mi.
“Ymhlith fy nyheadau mae parhau â’r gwaith adfywio hanfodol a sicrhau ein bod ni’n cyflawni potensial y ddinas a’i phreswylwyr.
“Bydd hi’n anodd iawn camu i esgidiau Debbie ond bydd dal yma, yn cynrychioli ward Gaer, ac rwy’n gwybod y bydd yn parhau i fod yn gennad gwych i Gasnewydd.”
Dywedodd yr Arglwyddes Wilcox: “Teimladau cymysg sydd gen i o ran sefyll i lawr oherwydd roedd arwain y cyngor yn anrhydedd, yn heriol ac yn gyfle gwych, ond rwy’n gwybod bod y cyngor mewn dwylo da a diogel.
“Byddaf yn dal i gynrychioli f’etholwyr yn ward Gaer wrth wneud popeth yn fy ngallu i hyrwyddo a chefnogi Casnewydd ar lwyfan ehangach.”
Penodwyd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet y cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas, yn ddirprwy arweinydd.
Mae hefyd ddau aelod newydd o’r cabinet: y Cynghorydd Deb Davies ar gyfer datblygu cynaliadwy a’r Cynghorydd Abdul-Majid Rahman ar gyfer asedau.