Newyddion

Yr etholiad cyffredinol: a ydych wedi cofrestru i bleidleisio?

Wedi ei bostio ar Monday 18th November 2019

Bydd modd i drigolion Casnewydd ddewis eu cynrychiolwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf - os ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.

Bydd ymgeiswyr yn sefyll yn nwy etholaeth seneddol y ddinas, Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd, ar 12 Rhagfyr.

Y bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad ac sy'n ddinasyddion y DU, Iwerddon neu Dinasyddion y Gymanwlad cymwys yw'r rhai a gaiff hawl i bleidleisio. Mae'n rhaid iddynt gofrestru erbyn canol nos dydd Mawrth 26 Tachwedd.

Dywedodd Sheila Davies, Swyddog Canlyniadau Casnewydd: "Dim ond pobl sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio gaiff ddweud eu dweud yn yr etholiad cyffredinol y mis Rhagfyr hwn.  Bydd angen i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd gofrestru er mwyn gwneud yn siŵr na fyddant yn colli eu cyfle i bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad."

Os nad ydych wedi'ch cofrestru, mae'n hawdd cofrestru ar-lein. Dim ond eich enw, eich cyfeiriad gan gynnwys y cod post, eich dyddiad geni a'ch rhif yswiriant gwladol mae eu hangen arnoch cyn mewngofnodi ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Fel arall, mae modd gofyn am ffurflen gan dîm gwasanaethau etholiadau Cyngor Dinas Casnewydd, drwy ffonio 01633 656656 neu dwy anfon e-bost i [email protected].

Yn ogystal â hynny, mae modd i fyfyrwyr a fydd gartref ar 12 Rhagfyr gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol i gael gwybod p'un a ydynt wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad cywir.

Yn achos pobl sydd ar wyliau neu nad oes modd iddynt bleidleisio ar 12 Rhagfyr oherwydd rhesymau eraill, mae modd gwneud cais am bleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd neu newid trefniadau pleidleisio drwy'r post sydd eisoes yn bodoli, ceisiadau am bleidleisio drwy ddirprwy newydd neu newid trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy sydd eisoes yn bodoli yw 5pm, ddydd Mawrth, 26 Tachwedd.

Mae modd i breswylwyr wneud cais i rywun bleidleisio ar eu rhan mewn gorsaf bleidleisio cyn 5pm 4 Rhagfyr.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i bleidleisio ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.