Newyddion

Calendr yn dathlu hanes Pont Gludo Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th November 2019
Transporter Bridge Calendar 2020 cover

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, ar y cyd â Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd, wedi creu calendr gyda delweddau o’r strwythur eiconig o’r gorffennol a’r presennol.

Bydd y calendr ar werth yn y Llyfrgell Ganolog ar Sgwâr John Frost o dderbynfa yr Oriel Gelf ar y trydydd llawr, o ddydd Iau 7 Tachwedd.

Bydd hefyd ar werth gan Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd mewn digwyddiadau y byddant yn bresennol ynddynt.

Mae’r calendr yn amlygu digwyddiadau sy’n ymwneud â’r Bon Gludo yn ystod 2020.

Bydd yr arian a godir drwy werthu’r calendr, ar gost o £5, yn rhan o gynlluniau’r cyngor i ddangos i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd wedi dyrannu £1 miliwn i broject y Bont Gludo yn ôl yn 2018, fod cysylltiadau dwfn rhwng y boblogaeth leol a’r Bont.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd y Cyngor, ei bod yn gobeithio y bydd y calendr fod yn boblogaidd gyda thrigolion.

“Mae’r calendr yn olrhain hanes ein Pont Gludo annwyl drwy hen ddelweddau a rhai newydd ac mae’n gofarwydd hyfryd o’r Bont a’r hyn y mae’n ei olygu i’n dinas.

“Wrth gwrs, os oes gan unrhyw un berthnasau sydd wedi symud i ffwrdd, bydd hyn yn eu hatgoffa o gartref, felly rydym yn gobeithio y bydd y calendr yn llwyddiannus ac yn ein helpu i brofi i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ein bod yn cymryd hyrwyddo yr ased hyfryd hwn o ddifrif.” meddai’r Cynghorydd Wilcox.

Mae Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd a’r Cyngor yn gweithio’n galed i gefnogi ail ran y cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri fydd yn ceisio cael £10 miliwn i sicrhau dyfodol y bont, adeiladu canolfan ymwelwyr newydd a thalu am gynhaliaeth ddrud y bont sy’n 113 blwydd oed erbyn hyn.

Yn ogystal â phrynu’r calendr, gall pobl wneud rhodd i’n helpu i sicrhau dyfodol y Bont Gludo, drwy fynd i www.justgiving.com/crowdfunding/newporttransporterbridge1

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.