Newyddion

Parêd a Gwasanaeth Blynyddol Sul y Cofio

Wedi ei bostio ar Thursday 7th November 2019
Remembrance Day plaque image

Bydd Parêd a Gwasanaeth blynyddol Sul y Cofio ddydd Sul 10 Tachwedd yng nghanol dinas Casnewydd.

Bydd Arweinydd y Parêd, Cadlywydd RSM William Burnett o’r Fagnelaeth Frenhinol Catrawd 104, yn cychwyn y parêd am 10:35am ym mhen uchaf y Stryd Fawr.

Bydd y Steadfast Band yn arwain y parêd a Chludwyr y Baneri, cyn-filwyr ac aelodau’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn eu dilyn.

Yn arwain y cynghorwyr bydd Maer a Maeres Casnewydd, y Cynghorydd William J Routley a Mrs Alison Robbins, a gaiff eu tywys gan ddau gludwr byrllysg o Gadetiaid Môr Casnewydd.

Yn eu holau daw’r grŵp VIP gan gynnwys Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd y Cynghorydd Debbie Wilcox.

Bydd y parêd yn cynnwys hefyd cynghorwyr, ACau lleol ac ASau yn ogystal ag aelodau o’r Lluoedd Arfog, y gwasanaethau brys, grwpiau ieuenctid gan gynnwys sgowtiaid, guides, brownis a chynrychiolwyr grwpiau cymunedol eraill fydd yn cerdded tuag at y senotaff ar gyfer y Gwasanaeth gan y Parchedig Ganon Dr Stephen James PCG a fydd yn dechrau am 10:58.

Bydd y gynnau yn tanio am 11am i nodi dechrau’r ddau funud o dawelwch.

Ar ôl y ddau funud o dawelwch, bydd yr Arglwydd Raglaw, Brigadydd Robert Aitken CBE yn arwain y seremoni osod torchau, gyda’r Maer, y Cynghorydd William J Routley, yr Uchel Siryf Mrs Claire Clancy, cynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a chyn-filwyr eraill.

Yna, bydd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Wilcox, cynrychiadol wrthblaid, y Cynghorydd David Fouweather, ACau John Griffiths a Mohammed Asghar ynghyd â chynrychiolwyr o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Fasnachol, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân De Cymru, Ambiwlans De Cymru ynghyd â’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill yn mynychu.

Ar ôl y gwasanaeth bydd yr Arglwydd Raglaw, y Maer ac SG Catrawd 104, a’r pwysigion yn cerdded at yr esgynlawr i dderbyn saliwt y parêd wrth iddi gerdded heibio.

Bydd y parêd yn symud ymlaen o’r Stryd Fawr.

Cyngor Dinas Casnewydd fydd yn cynnal y digwyddiad, a rhybuddir y bydd ffyrdd ar gau o 7am tan hanner dydd ar ddiwrnod y parêd.

Ymhlith y ffyrdd a fydd ar gau mae’r Stryd Fawr, Upper Dock Street (o Skinner Street i gylchfan yr Old Green), cylchfan Old Green, y ffordd osgoi at gylchfan Old Green o Kingsway, ffordd osgoi at gylchfan Old Green o Wyndham Street, Town Bridge (yn y ddau gyfeiriad), Clarence Place (y ddau gyfeiriad), Caerleon Road o Clarence Place at Church Road, Chepstow Road o Clarence Place i Cedar Road, Corporation Road o Clarence Place i St Vincent Road ac East Usk Road o Clarence Place at Tregare Street.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.