Newyddion

Datblygu Mosaigau Hanes Menywod

Wedi ei bostio ar Wednesday 29th May 2019
mosaics 1

Mae plant ysgol a grwpiau cymunedol yn helpu artist o Gasnewydd i greu gwaith celf ysbrydoledig i ganol y ddinas.

Llwyddodd Cyngor Dinas Casnewydd i ymgeisio am gyllid gan y Gronfa Dreftadaeth ar gyfer ei broject Hanes Menywod.

Mae'r artist Stephanie Roberts yn gweithio gyda disgyblion a gwirfoddolwyr i greu chwe mosaig i gofio menywod Casnewydd gan gynnwys Siartwyr a swffragetiaid ynghyd â modelau rôl mwy diweddar hefyd.

Helpodd hanesydd lleol, Peter Strong, gyda gweithdy ymchwil ac aeth yr awdur Sylvia Mason i ymweld â'r sesiwn grwpiau cymunedol i siarad am fudiad y swffragetiaid cyn i'r gwaith ymarferol ddechrau.

Mae Ysgol Gynradd Gatholig St Michael wedi helpu i ddylunio a chreu'r mosaig i gofio'r menywod hyn. Dysgon nhw am Faeres cyntaf Casnewydd, Mary Hart.

Bu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon gwrdd â Natasha Cockram, yr athletwr a enillodd ras y menywod ym marathon cyntaf Casnewydd, cyn dechrau'r gwaith ar eu mosaig yn arddangos menywod yn y byd chwaraeon.

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli wedi bod ynghlwm wrth y gwaith celf yn ymwneud â gweithwyr oedd yn fenywod a rhoddodd Peter Strong wybodaeth iddyn nhw ar ffatrïoedd arfau Casnewydd yn ystod y rhyfel, a'r effaith y mae'r gweithlu blaengar hwnnw wedi'i gael ar gymdeithas heddiw.

Yn ogystal, cafodd aelodau'r cyhoedd gyfle i gwrdd â Stephanie Roberts yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth a rhannu straeon.

Mae gweithdai creu mosaigau wedi'u cynnal yn ystod y gwanwyn dan arweiniad yr artist, a phan fydd yr holl ddarnau wedi'u cwblhau byddant yn cael eu datgelu ar wal yn St Paul's Walk, ger y mosaigau i gofio'r Rhyfel Mawr a osodwyd y llynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb oedd ynghlwm wrth greu'r gwaith celf hyn a gobeithiaf eu bod nhw wedi mwynhau cymryd rhan mewn project ffantastig fel hwn.

"Bydd y mosaigau'n talu teyrnged i'r rôl y mae menywod wedi'i chwarae, ac yn dal i'w chwarae, ym mywyd Casnewydd."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Thai: "Mae hwn yn broject gwych ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a phawb sy'n chwarae'r loteri, am ei wneud yn bosibl. Edrychaf ymlaen at eu gweld nhw'n gyhoeddus ym man agored St Paul's Walk yn hwyrach ymlaen eleni."

Dywedodd Stephanie Roberts:  "Rwy'n falch iawn o allu hwyluso'r gyfres hon o waith mosaig i ferched Casnewydd a'i phobl, gan taw Casnewydd yw cartref fy stori bersonol fel merch, mam a gweithiwr proffesiynol.  Mae'r project hwn wedi fy ngalluogi i gysylltu â phlant ac oedolion, dynion a merched i rannu straeon o ddymuniadau merched i geisio rhyddid, tegwch o ran llwyddiant, a chydraddoldeb mewn cymdeithas, trwy broses o greu gyda'n gilydd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.