Newyddion

Ceisio barn ar fannau gwefru cerbydau trydan

Wedi ei bostio ar Wednesday 1st May 2019
Electric car charging at civic 1

Mae'r pum awdurdod lleol yng Ngwent yn edrych ar ddichonoldeb cyflwyno mwy o fannau gwefru cerbydau trydan ar draws y rhanbarth.

Bydd darparu mannau gwefru cerbydau trydan yn helpu i weithio tuag at amgylchedd gwyrddach a glanach. Mae pob cyngor yn awyddus i glywed barn ei drigolion i'w helpu i gynllunio darpariaeth yn y dyfodol.

Mae cynghorau'n awyddus i ofyn a fyddai trigolion yn ystyried newid i gerbyd trydan pe bai mwy o fannau gwefru ar gael yn eu bwrdeistref.

Maent yn arbennig o awyddus i glywed gan drigolion sydd â char trydan neu sy'n ystyried cael car trydan ond nad ydynt yn gallu parcio na gwefru oddi ar y stryd ger eu heiddo.

I roi eu barn gofynnir i drigolion ledled Gwent gwblhau arolwg ar-lein yn 

https://getinvolved.torfaen.gov.uk/pssu/electric-vehicle-charging-points/

 gofynnir i drigolion ddewis pa fwrdeistref sirol maent yn byw ynddi. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 20 Mai.

Gofynnir i drigolion na allant gwblhau'r arolwg ar-lein gysylltu â'u cyngor gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod: Cyngor Dinas Casnewydd: Ross Cudlipp; ffôn: 01633 414847 e-bost: [email protected]

Dylai trigolion gynnwys eu cod post wrth ymateb fel y gall awdurdodau lleol ddeall lle mae'r galw mwyaf. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth i gefnogi cyfleoedd ariannu.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.