Newyddion

Newyddion diweddar ynghylch cynllun creu ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Wedi ei bostio ar Thursday 30th May 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod bod y ciwiau i ddefnyddio’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn broblem barhaus yn ystod yr oriau prysur ers blynyddoedd, a bod hyn yn peri rhwystredigaeth i breswylwyr.

I helpu i leddfu’r broblem hon, cyflwynodd y cyngor gynllun sy’n cynnwys newid cyfeiriad y traffig o amgylch y safle i greu rhagor o gapasiti i gerbydau sy’n aros.

Mae’r cyngor hefyd yn cydnabod y bu cynnydd yn nifer y defnyddwyr hefyd oherwydd y tywydd braf dros y Pasg a gwyliau’r banc a hefyd oherwydd bod awdurdodau lleol Sir Fynwy a Chaerffili wedi gwahardd pobl nad ydynt yn breswylwyr rhag defnyddio eu cyfleusterau. 

Gan ystyried hyn oll, mae’r cyngor yn bwrw ymlaen â chynlluniau i godi ail ganolfan gwastraff y cartref yng Nghasnewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet y cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas, fod yr awdurdod yn cydnabod yr angen am ail ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref oherwydd bod darpariaeth y ddinas yr isaf yng Nghymru.

“Bu i ni ddatgan ein hymrwymiad i ail safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ein cynllun corfforaethol ac rydym yn ystyried safleoedd posibl er mwyn datblygu hyn.

“Rydym yn gwybod bod rhai preswylwyr yn credu bod cyflwyno biniau bychan hefyd wedi arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n defnyddio’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ond mewn gwirionedd, mae’r ffigyrau dros dro yn dangos bod ailgylchu a gwastraff bwyd wedi codi gan 25 y cant a’r gwastraff dros ben wedi gostwng gan 30 y cant.

“Golyga hyn fod ein ffigyrau mis Ebrill yn dangos cynnydd cyffredinol yn yr ailgylchu i tua 65 y cant, sy’n galonogol iawn,” dywedodd y Cyng  Jeavons.

Hyd yma, mae 45,000 o finiau wedi eu rhoi i breswylwyr trwy’r ddinas. Mae hyn wedi arwain at bron i 10,000 gais newydd am gynwysyddion ailgylchu ychwanegol.

Wedi cyflwyno’r biniau llai, bu cynnydd hefyd yn nifer y teuluoedd â phlant ifainc sy’n defnyddio gwasanaeth sach cewynnau’r cyngor, ac felly’n gostwng swm y gwastraff yn y biniau gwastraff dros ben.

Bu cynnydd yn nifer y casgliadau sbwriel yn y gymuned oherwydd y bu grwpiau cymunedol yn weithredol yn ystod wythnos Gwanwyn Glân pan roddodd y cyngor offer i helpu’r rhain.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.