Newyddion

Ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth teithio cynaliadwy

Wedi ei bostio ar Tuesday 21st May 2019
Newport VVP - aerial April 2017

Mae strategaeth â’r nod o ddod â sawl cam gweithredu ynghyd i leihau llygredd a grëir gan rwydwaith trafnidiaeth Casnewydd bellach yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio, wedi cymeradwyo Strategaeth Teithio Cynaliadwy Cyngor Dinas Casnewydd er mwyn bwrw ymlaen â’r cam nesaf.

Bydd y strategaeth yn edrych ar ffyrdd i annog beicio a cherdded, yn awgrymu cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac yn rhoi canllawiau ar geisiadau cynllunio i sicrhau eu bod oll yn chwarae rhan yn y ffordd y gall rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas wella iechyd y cyhoedd, lleihau lefelau llygredd a lleihau effaith cynhesu byd-eang.

Bydd cefnogaeth a barn y cyhoedd yn hanfodol er mwyn helpu i lywio’r strategaeth a’r cynlluniau manwl fydd yn dilyn.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth yn dod i ben ar 30 Mehefin. Gellir ei weld yma http://www.newport.gov.uk/cy/Transport-Streets/Sustainable-travel.aspx

Nid yw’r strategaeth yn bwriadu nodi cynlluniau manwl, ond yn hytrach gweithredu fel man cychwyn i ddatblygu cynlluniau lleol fydd yn ategu ei gilydd.

Er mwyn helpu i lywio hyn, gall preswylwyr gymryd rhan yn yr arolwg hefyd. Ewch i http://www.newport.gov.uk/_dc/static/surveys/sustainable_travel_strategy.htm

O ran ansawdd aer, mae’r Cyngor eisoes wedi datgan 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) ledled y ddinas – ardaloedd lle mae’r llygredd yn fwy na’r amcanion ansawdd aer – wedi’i achosi gan ormodedd o draffig ffordd. Bydd ARhAAau wrth wraidd y broses o lunio cynlluniau lleol.

Mae traffig ffordd yn arwain at allyriadau carbon deuocsid sy’n nwy tŷ gwydr, sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

I leddfu effaith newid yn yr hinsawdd, mae gwyddonwyr wedi nodi bod gennym 12 mlynedd i leihau allyriadau carbon deuocsid.

Gyda hyn mewn golwg, yn hytrach na datblygu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer yn unig i fodloni deddfwriaeth y llywodraeth, mae’r Cyngor yn bwriadu ymgynghori ar y Strategaeth Teithio Cynaliadwy ehangach.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.