Newyddion

Cyngor Dinas Casnewydd yn llofnodi siarter Marw i Weithio Cyngres yr Undebau Llafur

Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd May 2019
TUC Dying to Work Charter signing with Leader 22 May V2

Llofnododd y Cynghorydd Debbie Wilcox yn llofnodi siarter Marw i Weithio Cyngres yr Undebau Llafur

Llofnododd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, bapur swyddogol heddiw yn ymrwymo’r Cyngor i siarter Marw i Weithio Cyngres yr Undebau Llafur.

Mae’n tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithwyr â salwch angheuol er mwyn galluogi staff i aros yn eu swyddi cyhyd ag y mynnent.

Gan fod y Cyngor bellach wedi llofnodi’r siarter, bydd manylion y Cyngor yn cael eu hychwanegu at wefan yr ymgyrch ochr yn ochr â manylion awdurdodau lleol eraill o Gymru sydd wedi’i llofnodi hefyd, gan gynnwys Caerffili, Caerdydd, Sir Gâr a Chastell Nedd Port Talbot.

Fe wnaeth y Cynghorydd Debbie Wilcox yr adduned ar ran y Cyngor yng nghyfarfod y cabinet fis Ebrill.

Mae CULl yn galw ar gyflogwyr ledled y DU i lofnodi’r siarter a chytuno i beidio â diswyddo unrhyw gyflogai sydd wedi derbyn diagnosis angheuol.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Drwy lofnodi’r siarter Marw i Weithio rydym yn dangos ymrwymiad ein Cyngor i gefnogi cyflogeion a’u teuluoedd yn ystod amseroedd o angen anodd iawn a pharchu dymuniadau cyflogai i beidio â chael ei ddiswyddo pan fydd yn derbyn diagnosis o gyflwr angheuol.

 “Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyfle i gyflogeion gael cwnsela ac rydym yn y broses o adeiladu hyb llesiant i staff er mwyn gallu cyrchu dewisiadau llesiant eraill. Fodd bynnag, wrth lofnodi’r Siarter rydym yn ychwanegu at safiad y Cyngor ein bod yn cefnogi cyflogeion sydd wedi derbyn diagnosis o salwch angheuol.

Dywedodd Gareth Hathway, swyddog arweiniol y CULl ar gyfer Marw i Weithio: “Ni ddylech orfod pryderu am eich swydd ar gael diagnosis o salwch angheuol. Rydym wrth ein bodd bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i lofnodi Siarter Marw i Weithio CULl.  

 “Mae’r tawelwch meddwl o wybod y gallwch fforddio i dalu eich biliau wrth fod yn sensitif i anghenion gwaith pobl â salwch angheuol yn rhoi urddas a pharch i bobl pan fo’u hangen arnynt y mwyaf.

 “Wrth addo cefnogaeth i’r Siarter Marw i Weithio, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dangos ei gydnabyddiaeth o’r rôl allweddol sydd ganddynt wrth amddiffyn llesiant ei weithlu.”

Mae Rebecca Dawkins, uwch gynrychiolydd y GMB, hefyd wedi canmol camau’r Cyngor wrth lofnodi’r siarter.

Dywedodd: “Rydym yn dathlu ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i’w staff, drwy gydnabod y gall pobl sy’n dioddef o salwch angheuol, drwy weithredu prosesau cadarn, barhau i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i’w cyflogwr ac mae’r siarter hon yn gwneud hynny’n bosibl.

“Gobeithiwn y bydd pob awdurdod lleol yn dilyn esiampl arweiniol Cyngor Dinas Casnewydd ac yn llofnodi’r siarter hefyd.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.