Newyddion

Maer Newydd Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 14th May 2019
Mayor William Routley

Y Cynghorydd William J Routley yw Maer newydd Casnewydd a dinesydd cyntaf y ddinas.

Cafodd ei urddo mewn seremoni yn y Ganolfan Ddinesig ar 14 Mai yn dilyn cyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor.

Y Cynghorydd Routley yw’r cynghorydd ward ar gyfer ardal Langstone ac yn y gorffennol mae hefyd wedi cynrychioli wardiau Alway a Stow Hill.

Ef yw 387ed i'w gofnodi yn Faer Dinas Casnewydd. Cofnodwyd y Maer cyntaf ym 1314.

Ei bartner, Ms Alison Robbins yw Maeres newydd Casnewydd. Cyfarfu’r ddau tra’n gweithio i’r GIG ac maen nhw wedi bod gyda’i gilydd ers 2011. Maen nhw nawr yn byw yn Langstone.

Dirprwy Faer Casnewydd, yw’r Cynghorydd Charles Ferris, a’i chwaer-yng-nghyfraith Caroline yw’r Dirprwy Faeres.

Ar hyn o bryd mae’r Cynghorydd Ferris yn cynrychioli ward Allt-yr-ynn ac mae wedi bod yn Gynghorydd ers 2008. Mae’n gefnogwr cryd o long canoloesol Casnewydd, a ganfuwyd ar lannau’r afon Wysg yn 2002 ac ef yw noddwr Cyfeillion Llong Casnewydd.

Yr elusen a ddewiswyd gan y Maer ar gyfer 2019/20 yw’r David “Bomber” Pearce Legacy.

Wedi ei sefydlu er mwyn anrhydeddu unig Bencampwr Pwysau Trwm Gwledydd Prydain Casnewydd, mae’r elusen yn cynnig cymorth i unigolion a chlybiau cymunedol yn y maes chwaraeon sy’n ceisio ysbrydoli pobl ifanc trwy brojectau cymunedol. Mae hefyd yn cefnogi elusennau lles lleol eraill yng Nghasnewydd a de Cymru.

Diolchwyd i’r Maer y Cynghorydd Malcolm Linton a’r Faeres Mrs Sharon Linton am eu blwyddyn o waith prysur. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd llwyddodd y Cynghorydd Linton i godi dros £15,000 i’w ddewis o elusen.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.