Newyddion

Materion canol y ddinas

Wedi ei bostio ar Wednesday 8th May 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gwbl ymwybodol o broblem pobl yn cysgu allan ac yn cardota yng nghanol y ddinas.

Mae hon yn broblem genedlaethol ac nid yw'n rhywbeth y gall y cyngor ddelio ag e ar ei ben ei hun, felly mae'n gweithio â phartneriaid i fynd i'r afael â hyn, yn cynnwys Heddlu Gwent ac elusennau ar gyfer y digartref.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y cyngor: "Rydyn ni'n deall y gall eu hymddygiad fod yn heriol ond mae'r problemau hyn yn gymhleth a dydyn nhw ddim yn unigryw yng Nghasnewydd ac yn anffodus, mae digartrefedd yn codi trwy'r DU a does dim atebion rhwydd.

"Fodd bynnag, dydyn ni'n sicr ddim wedi bod yn eistedd yn segur. Mae amrywiaeth o waith yn mynd rhagddo yng nghanol y ddinas.

"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng delio'n llym â'r rhai sy'n ymosodol neu'n bygwth, a dylech adrodd am unrhyw ymddygiad troseddol wrth yr heddlu yn syth, a'r rhai sydd mewn gwir angen ac mewn sefyllfa anobeithiol.

"I geisio mynd i'r afael â'r materion gwrthgymdeithasol, cyflwynodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol y ddinas, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gardota ymosodol ac yfed. Dywedodd Heddlu Gwent wrth y cyngor llawn yr wythnos ddiwethaf yr anfonwyd un person i'r carchar wedi iddo dorri amodau'r gorchymyn droeon.

"Fodd bynnag, mae'r rhesymau dros bobl yn cardota ac yn cysgu allan yn gymhleth. Ni fyddai gorfodi'r bobl i symud yn datrys y problemau, dim ond eu symud i le arall.

"Mae nifer o wasanaethau ar gael i'w helpu ac mae Eden Gate nawr yn cynnal lloches trwy'r flwyddyn, ond mae hyn yn dibynnu ar bobl yn rhyngweithio â staff y cyngor neu'r elusennau."

Mae'r cyngor, ynghyd â'r sector preifat a'r trydydd sector, wedi buddsoddi'n fawr yng nghanol y ddinas i'w wneud yn fwy byw a llewyrchus ac mae rhagor o brojectau'n mynd rhagddynt neu ar y gweill felly mae o fudd i ni ei wneud yn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Ar ddechrau mis Gorffennaf, bydd y cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb cyfreithiol dros orfodi parcio ceir a bydd cymryd camau yn erbyn parcio anghyfreithlon yng nghanol y ddinas yn flaenoriaeth.

Bydd y cyngor yn ystyried y ddeiseb pan ddaw i law.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau digartrefedd, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Planning-Housing/Housing/Find-a-home/Homelessness.aspx

ar gyfer gorfodi parcio dinesig: http://www.newport.gov.uk/cy/Transport-Streets/Parking/Civil-Parking-Enforcement.aspx; a'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus: http://www.newport.gov.uk/cy/Transport-Streets/Anti-social-behaviour/Public-Space-Protection-Order-PSPO/Public-Space-Protection-Orders.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.