Yr actores Hayley Mills yn ymweld â Phont Gludo Casnewydd
Wedi ei bostio ar Wednesday 15th May 2019
Yr actores Hayley Mills yn ymweld â Phont Gludo Casnewydd
Bu’r actores Hayley Mills ar ymweliad â Phont Gludo Casnewydd yn gynharach y mis hwn i ymweld o’r newydd â lleoliad yr olygfa yn y ffilm Tiger Bay.
Defnyddiwyd y Bont Gludo ar ddechrau’r ffilm pan gafodd ei dangos fwy na 60 mlynedd yn ôl.
Roedd Ms Mills yn cymryd rhan mewn rhaglen o’r enw Movie Memories: The Making of Tiger Bay. Caiff y rhaglen ei dangos ar ITV Wales am 8pm ar ddydd Mercher, 15 Mai.
Dywedodd y cynhyrchydd Carwyn Jones: “Siaradodd Hayley am y bont â brwdfrydedd a theimlad go iawn ar y camera. Doedd hi ddim wedi bod yn ôl yma ers iddi ffilmio ar y gondola (ar y Bont Gludo) 60 mlynedd yn ôl ac roedd hi wrth ei bodd yn gweld y bont unwaith eto.
“Hoffem ddiolch i Gyngor Dinas Casnewydd am ymateb mor gadarnhaol i’n cais i ffilmio ar y Bont Gludo.”