Ras 10K a Marathon Casnewydd Cymru ABP – popeth sydd angen ichi ei wybod
Wedi ei bostio ar Thursday 2nd May 2019
Cynhelir ail ras 10K a Marathon Casnewydd Cymru ABP ddydd Sul yma, 5 Mai 2019.
Cofrestrodd bron i 10,000 o redwyr ar gyfer y Marathon, y Ras 10k a Milltir y Teulu yn 2018 a disgwylir niferoedd uchel eto eleni.
Y llynedd daeth miloedd allan i strydoedd Casnewydd i ddangos eu cefnogaeth ac rydym yn disgwyl gweld miloedd ar hyd y llwybr eto.
Am faint o’r gloch bydd y rasys yn dechrau?
Cynhelir ail Ras 10k a Marathon Casnewydd Cymru ABP ddydd Sul 5 Mai. Bydd y marathon yn dechrau am 09:00 a bydd y Ras 10K yn dechrau am 09:45.
Beth yw’r llwybr?
Crëwyd y llwybr ar gyfer marathon agoriadol Casnewydd Cymru gan y rhedwr marathonau, Steve Brace, sydd wedi ennill dwy fedal Olympaidd. Mae’n dechrau ac yn gorffen ar lan afon bywiog Casnewydd ac mae’n un o’r llwybrau marathon mwyaf gwastad yn y DU - dywedodd mwy na 70 y cant o’r bobl a redwyd y marathon yn 2018 iddynt dorri record bersonol y flwyddyn honno.
Bydd y llwybr cylch unigol yn mynd â rhedwyr heibio Prifysgol De Cymru a chanolfan brysur Friars Walk cyn cychwyn i’r Bont SDR, trwy ddwyrain y ddinas ac i mewn i’w hardaloedd gwledig. Cyn sbrintio ar hyd Afon Wysg tuag at y llinell gorffen, caiff rhedwyr y cyfle i weld bywyd gwyllt yr arfordir ar Wastadeddau Gwent a Gwlypdiroedd Casnewydd – un o safleoedd gwylio adar mwyaf poblogaidd y DU.
Bydd llwybr y 10K hefyd yn dechrau wrth Lan yr Afon gan fynd trwy ganol y ddinas sydd wedi’i ailfywiogi ac ar hyd Pont Gludo Casnewydd.
Ble mae Pentref y Ras?
Bydd Pentref y Ras wrth ymyl adeilad Prifysgol De Cymru ar Usk Way. Bydd rhywbeth i bobl o bob oedran felly dewch â’r teulu cyn gwylio dechrau’r ddwy ras.
Bydd ynddo adloniant i’r teulu, noddwyr a stondin arddangos a llawer mwy! Hefyd bydd llu o ddewisiadau bwyta a hamdden yng nghanolfan siopa Friars Walk sy’n agos.
Ble gallaf barcio ar ddiwrnod y rasys?
Bydd gwasanaeth parcio a theithio ar waith o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae manylion am ddewisiadau parcio ledled y ddinas yma.
Bydd maes parcio Park Square yn agor yn gynt ddydd Sul (7.30am) i redwyr a gwylwyr. Hefyd bydd maes parcio Ffordd y Brenin ar agor gyda mynediad arbennig ar Ffordd y Brenin (heibio Theatr Dolman).
Sylwch na fydd y meysydd parcio canlynol ar gael yn ystod y digwyddiad:
Emlyn Street (ar gau ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Llun)
Glan yr Afon (ar gau ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul)
Friars Walk (ar gau ddydd Sul)
A fydd ffyrdd ar gau?
Caiff ffyrdd eu cau yn ystod oriau cynnar dydd Sul 29 Ebrill ac mae angen eu cau i alluogi cynnal y rasys a diogelu’r rhedwyr.
Mae preswylwyr a busnesau ar hyd y llwybr wedi cael manylion ysgrifenedig llawn ac mae nifer o ddigwyddiadau gwybodaeth wedi'u cynnal.
Gweler mapiau a manylion am ffyrdd a fydd ar gau ar hyd y llwybr.
Ble mae’r lle gorau i wylio?
Mae rhedeg 26 milltir yn gamp wirioneddol ac mae’r gefnogaeth mae’r rhedwyr yn ei chael yn eithriadol bwysig, felly yn ffodus mae llawer o leoedd i chi gael cipolwg neu ddau ar eich anwyliaid.
Bydd awyrgylch parti yn yr ardal ddechrau/gorffen ar Usk Way, a llawer o leoedd i ddangos eich cefnogaeth yn agos at y Bont Gludo. Cofiwch nad yw gondola’r Bont Gludo yn gweithio ar hyn o bryd, fodd bynnag gellir croesi ar droed, dros dop y bont.
Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn y canllaw ar ddiwrnod y rasys.