Newyddion

Parêd a Gwasanaeth Coffa 75 Blynedd ers D-Day yng nghanol y ddinas

Wedi ei bostio ar Friday 31st May 2019
Veterans at D Day Parade v2

Gwasanaeth Coffa D-Day 2018

Bydd Parêd a Gwasanaeth Coffa D-Day, sy’n nodi 7m mlynedd eleni, yn cael eu cynnal ddydd Iau 6 Mehefin.

Bydd y Cynghorydd William J Routley, Maer Casnewydd, yn y digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Cymrodyr y Royal Welsh, i osod torch ar ran y Cyngor.

Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn y parêd yn cwrdd y tu allan i Wetherspoons, Cambrian Road o 11.30am a bydd y parêd yn gadael am 11.45am gan gerdded o Cambrian Road, troi i’r chwith i fynd ar hyd yr ardal i gerddwyr ar Heol y Bont ac yna i’r chwith i’r Heol Fawr tuag at y Gofeb D-Day lle bydd gwasanaeth byr a seremoni gosod torch yn cael eu cynnal.

Byddai Cymdeithas Cymrodyr y Royal Welsh wrth eu bodd pe bai modd i’r cyhoedd gefnogi’r digwyddiad drwy ddod i’r strydoedd i wylio’r parêd.

Er rhesymau diogelwch ac er mwyn caniatáu i’r parêd fynd heibio’n ddiogel, bydd ffyrdd yn cael eu cau ar hyd y llwybr o 7am tan 1pm.

Mae Parêd D-Day yn nodi’r dyddiad hanesyddol yn 1944 pan ymosododd byddinoedd morol, awyr a thir y Cynghreiriaid ar Ffrainc oedd wedi’i meddiannu gan y Natsïaid.

Cyrhaeddon nhw draethau Normandi ar 6 Mehefin, a nododd ddechrau ymgyrch hir a gwaedlyd i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant yr Almaenwyr, ac a fu’n drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.