Newyddion

Teyrnged i'r cyn-gynghorydd Ron Morris

Wedi ei bostio ar Friday 29th March 2019

Mae'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wedi talu teyrnged i Ron Morris a wasanaethodd Casnewydd fel cynghorydd am fwy nag 20 mlynedd.

Cynrychiolodd y Cynghorydd Morris ward Beechwood a gwasanaethodd fel Maer Casnewydd o 2001 i 2002.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: "Roedd blwyddyn Ron fel Maer yn nodedig oherwydd yn ystod y cyfnod hwn cafodd Casnewydd ei gwneud yn ddinas, a chwaraeodd rôl bwysig yn y gamp honno.

 "Fe felly oedd maer olaf Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Aeth i fwy na 460 o ddigwyddiadau er gwaethaf tristwch personol pan fu farw ei wraig Peggy yn ystod eu blwyddyn fel dinasyddion cyntaf Casnewydd.

 "Yn ogystal â bod yn gynghorydd ymrwymedig a phoblogaidd o'r 1980au cynnar hyd nes iddo gamu i lawr yn 2004, roedd Ron yn gyn-bêl-droediwr proffesiynol a rhedodd siop gyda Peggy cyn eu hymddeoliad.

 "Fy nghydymdeimladau i'w holl deulu a ffrindiau. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.