Newyddion

Cyflwyno biniau bach

Wedi ei bostio ar Friday 8th March 2019
recycling plea for website small image

Gallwch archebu mwy o flychau i'ch helpu i ailgylchu mwy

O fis Ebrill ymlaen, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyfyngu ar faint o sbwriel sy’n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr mewn ymgais i annog pobl i ailgylchu eitemau y byddent fel arall yn mynd i’r safle tirlenwi.

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn gwario £2.2m ar waredu gwastraff. Ar hyn o bryd mae dros hanner yr eitemau sy’n cael ei roi mewn biniau sbwriel yn cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu’n hawdd, bwyd neu wastraff gardd.

Ar dudalen flaen rhifyn mis Mawrth o’r cylchlythyr Materion Casnewydd mae canllawiau defnyddiol i dynnu sylw at le y dylid rhoi’r eitemau hyn.

Bydd whilfiniau llai, 120 litr, yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o dri mis yn lle’r biniau presennol. Bydd rhagor o wybodaeth yn egluro sut i ailgylchu yn cael ei hanfon at breswylwyr cyn dosbarthu’r biniau.

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod llawer o breswylwyr yng Nghasnewydd sy’n awyddus iawn i ailgylchu, ond y preswylwyr hynny nad ydynt yn ailgylchu y mae’r Cyngor yn gobeithio eu cyrraedd.

Dywedodd llefarydd: “Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghasnewydd wedi gwella’n sylweddol dros y 15 mlynedd diwethaf ac mae bellach wedi cyrraedd 60 y cant.

“Gwyddom fod Casnewydd eisoes yn un o’r dinasoedd sy’n perfformio orau yn y DU o ran ailgylchu, ond er mwyn bodloni targedau Llywodraeth Cymru o 70 y cant, ac er mwyn osgoi dirwyon ariannol sylweddol, mae angen i ni wneud mwy.”

Ni fydd modd rhoi eitemau y gellir eu hailgylchu’n hawdd (papur, cardbord, poteli plastig, caniau a thuniau, poteli a jariau gwydr), gwastraff bwyd na gwastraff gardd mewn biniau gwastraff y cartref mwyach.

Er bod y rhan fwyaf o’r preswylwyr eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu yn rheolaidd, bellach mae’r Cyngor yn gofyn bod pawb yn gwahanu eu nwyddau ailgylchadwy.

Bydd y whilfiniau newydd, llai o faint yn ganllaw gweledol clir ar y cyfyngiad ar wastraff preswylwyr yn y dyfodol. Fodd bynnag, rydym yn annog preswylwyr i fynd ymhellach a gwneud y mwyaf o’u hymdrechion i ailgylchu ac ailddefnyddio; er mwyn helpu preswylwyr i gyflawni hyn, gellir gwneud cais am gynhwysyddion ailgylchu ychwanegol os oes eu hangen a byddant yn cael eu dosbarthu ar unwaith.

Bydd tîm addysg a gorfodi newydd yn gweithio gyda phreswylwyr nad ydynt yn ailgylchu neu’n gorlenwi eu biniau sbwriel.

Mae cyfyngiad ar faint o wastraff sy’n cael ei gasglu eisoes wedi’i gyflwyno gan y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru, gan arwain at welliannau mawr mewn cyfraddau ailgylchu.

 “Rydym yn bwriadu dosbarthu llythyrau a thaflenni yn rhoi gwybodaeth am gyflwyno’r biniau newydd a bydd gwybodaeth fwy manwl ar gael i bob preswylydd cyn bod y newidiadau’n mynd rhagddynt,” dywedodd y llefarydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.