Newyddion

Isetholiad Gorllewin Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th March 2019

Bydd isetholiad ar gyfer sedd seneddol Gorllewin Casnewydd yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 4 Ebrill, gyda’r cyfnod i enwebu ymgeiswyr yn agor ar ddydd Mercher 6 Mawrth ac yn cau ar ddydd Gwener 8 Mawrth.

Gellir mynd  â ffurflenni enwebu’n syth i’r swyddfa gofrestru etholiadol yn y Ganolfan Ddinesig rhwng 10am a 4pm. Awgrymir eich bod yn gwneud apwyntiad er mwyn osgoi aros. Gellir trefnu apwyntiadau drwy gysylltu  â’r rheolwr cofrestru etholiadol.

Mae etholaeth Gorllewin Casnewydd yn cynnwys wardiau Allt-yr-ynn, Betws, Caerllion, Gaer, Graig, Malpas, Langstone, Llanwern, Maerun, Pillgwenlli, Tŷ-du, Shaftesbury, Stow Hill a Pharc Tredegar.

Dim ond pobl fydd ar y gofrestr etholiadol erbyn 19 Mawrth fydd â’r hawl i bleidleisio. I rai nad ydyn nhw eto ar y gofrestr, mae’n broses gyflym a hawdd. Bydd angen eich dyddiad geni a’ch rhif yswiriant gwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar  www.gov.uk/register-to-vote

Mae 20 Mawrth yn ddyddiad pwysig hefyd. Rhaid gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais brocsi drwy’r post erbyn y dyddiad hwnnw. Rhaid gwneud cais am bleidlais brocsi erbyn 27 Mawrth. Ni fydd y dyddiadau hynny’n weithredol ar gyfer materion brys.

I wneud cais am ffurflenni cofrestru papur, neu i wneud apwyntiad i gyflwyno enwebiadau, cysylltwch â’r swyddfa gofrestru etholiadol ar 01633 656656 neu [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.