Newyddion

Mynediad haws i'r safle Ailgylchu Gwastraff Cartref

Wedi ei bostio ar Monday 25th March 2019
HWRC-TM-Plan-web (002)

Cynllun o'r safle

Mae cynllun ar gyfer hwyluso mynediad i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Cyngor Dinas Casnewydd yn Docks Way ar fin cael ei gwblhau.

Mae cyfeiriad y traffig o amgylch yn safle’n cael ei wrth-droi.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd modd i ymwelwyr sydd am fynd ag eitemau i’r Siop Ailddefnyddio ar y safle droi i’r chwith ger y fynedfa yn lle gorfod gyrru trwy’r safle a heibio’r sgipiau ailgylchu.

Mae’r ffordd ar y safle ei hun hefyd wedi’i hestyn i greu mwy o le i gerbydau giwio wrth aros. Dylai hyn, yn ei dro, leihau nifer y cerbydau sy’n gorfod ciwio ar ffyrdd dynesu’r ganolfan ailgylchu.

Mae gan Wastesavers, partner ymddiriedolaeth elusennol Cyngor Dinas Casnewydd, un o’i phrif ganolfannau ailddefnyddio ar Telford Street, oddi ar Corporation Road, Casnewydd ynghyd â dwy siop arall: yr un ar safle’r CAGC yn Docks Way, Casnewydd a’r un yn The Shed yn Llantrisant.

Mae’r canolfannau hyn yn dibynnu ar ewyllys da pobl i roi eu nwyddau cartref diangen o safon y gellir eu huwchgylchu a’u gwerthu ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, yr Aelod Cabinet dros Strydlun, fod y newidiadau yn y CAGC yn cael eu cyflwyno i liniaru tagfeydd traffig ar adegau prysur, yn benodol ar y penwythnos.

“Mae’r newidiadau’n golygu na fydd rhaid i breswylwyr sydd am roi eitemau i’r siop ailgylchu aros mewn ciw fel petaent yn rhoi eitemau yn y sgipiau; yn lle hynny, gallant yrru’n syth i’r siop.

“Rydym yn estyn y ffordd ar y safle ei hun hefyd, felly gobeithio y bydd hyn yn lleihau nifer y cerbydau sy’n ciwio ar y ffordd ddynesu.

“Rydym yn credu y bydd y newidiadau hyn yn creu amgylchedd gwell ac yn helpu staff a chwsmeriaid sydd am ddefnyddio’r safle,” meddai’r Cyng. Jeavons.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.