Newyddion

Gwylio'r machlud haul o dop y Bont Gludo

Wedi ei bostio ar Thursday 20th June 2019

Bydd ymwelwyr brwd gyda synnwyr antur yn cael cyfle i gerdded ar dop y Bont Gludo i dynnu lluniau o'r ddinas ar Ŵyl Ifan ddydd Gwener 21 Mehefin.

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn agor y bont yn hwyrach na'r arfer ar y diwrnod hwn fel y gall unrhyw un sydd â diddordeb fynd ar draws y nenbont a thynnu lluniau o'r haul yn mynd i lawr ar y diwrnod hiraf.

Sylwch bod y digwyddiad hwn yn dibynnu ar y tywydd ac mae'n bosibl y bydd yn cael ei ganslo ar y diwrnod, ond caiff hyn ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl ar sianeli'r cyfryngau cymdeithasol: Twitter @NpTBridge neu @NewportCouncil a Facebook https://www.facebook.com/NptBridge/ neu https://www.facebook.com/NewportCityCouncil/

Mae'r gondola, oedd ar gau am sawl wythnos tra bod gwaith trwsio hanfodol ar waith yn gweithio eto.

£4 yw pris mynediad y Bont Gludo am docyn dydd i oedolion, £3 i blant, ac £1.50 i groesi'r afon a £1 am daith sengl.

Mae'r Cyngor wedi sefydlu Tudalen JustGiving y Bont Gludo i godi arian i helpu i wneud gwaith trwsio i'r gondola ac ar gyfer cost barhaus y gwaith trwsio a chynnal a chadw cyffredinol y bont 112 oed.

Bydd arian a godir fel hyn yn cael ei ddefnyddio ar fid cyllido llwyddiannus rownd gyntaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) a ddyfarnodd £1 miliwn ar gyfer y project.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda South Wales Argus i ofyn i breswylwyr am eu hatgofion o unrhyw gysylltiadau teuluol â'r Bont Gludo, neu atgofion o ymweliadau yno yn y gorffennol.

Mae'r hanesion 'atgofion byw' yn cael eu trefnu ar gyfer project lle bydd y straeon yn cael eu defnyddio mewn darn ar lwyfan YouTube y Cyngor yn hwyrach ymlaen eleni.

Os ydych yn awyddus i gyfrannu, cysylltwch â [email protected] a Tomos Povey o'r South Wales Argus [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.