Newyddion

Amser i fyfyrio ar ddwy ystafell newydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th June 2019
Reflection room - Members 2

Mae dwy ystafell yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd wedi’u hadnewyddu i helpu i wella lles aelodau staff a’r cyhoedd.

Mae preifatrwydd a chael llonydd a lle ac amser i fwydo ar y fron ar gael i famau sy’n ymweld â’r ganolfan ddinesig ar ôl i Gyngor Dinas Casnewydd adnewyddu ystafell at y diben hwnnw.

Mae’r ystafell hon yn cefnogi ymhellach cyflwyniad y cynllun Mae Croeso i Chi Fwydo ar y Fron Casnewydd.

Mae’r ganolfan ddinesig yn un o’r ychydig safleoedd yn y ddinas sy’n cynnig cyfleuster o’r fath, fodd bynnag gobeithir y bydd busnesau eraill yn gwneud yr un peth.

Cafodd y cynllun ei ddatblygu gyntaf yn rhan o Gynllun Integredig Sengl (CIS) gynt y Cyngor, ac mae’n cyd-fynd â Chynllun Llesiant Casnewydd.

Mae gan yr ystafell ar ei newydd wedd gadeiriau cyfforddus, sgriniau preifatrwydd, goleuadau wedi’u pylu a thegell ac oergell.

Gall staff sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod mamolaeth sydd am odro llaeth i’w babis hefyd ddefnyddio’r ystafell yn ystod eu diwrnod gwaith arferol.

Mae’r Ganolfan Ddinesig eisoes yn un o’r Eiddo Mae Croeso i Chi Fwydo ar y Fron, ac mae’r logo yn glir yn y brif dderbynfa ac yn y tŷ gwydr.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fwydo ar y fron mewn unrhyw rai o’r ardaloedd cyhoeddus, fodd bynnag os ydynt yn awyddus i fwydo mewn lle mwy preifat, mae’r ystafell Mae Croeso i Chi Fwydo ar y Fron yn agored i’r cyhoedd heb orfod mynd i mewn drwy ddrysau dan glo.

Yr ail broject yw agor Ystafell Fyfyrio, y bydd modd i staff ei defnyddio ar gyfer myfyrdod, gweddïo a chynhemlad tawel.

Nododd adroddiad blynyddol cydraddoldeb 2017/18 bod gan y Cyngor weithlu amrywiol, a bod angen cynnig rhagor o gefnogaeth i amrywiaeth grefyddol ac ethnig o ran staff.

Mae’r project hwn yn fenter bwysig sy’n cyfleu neges glir bod yr awdurdod yn weithlu agored a chroesawgar, a’n bod ni’n cymryd dyletswyddau cyffredinol y Ddeddf Cydraddoldeb o ddifri.

Cafodd y ddwy ystafell eu hagor yn swyddogol yn y ganolfan ddinesig gan y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y Cyngor. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu helpu ein staff ac aelodau’r cyhoedd gyda’r ystafelloedd hyn ar eu newydd wedd.

 “Rydym yn cydnabod bod mamau newydd angen amser tawel a gofod preifat i fwydo ar y fron, ac mae’r ystafell bwrpasol hon yn cynnig hyn mewn amgylchiadau perffaith.

 “Mae hefyd yn hanfodol ein bod ni’n cael cyfle i ymlacio yng nghanol amserlenni prysur bywyd modern.

 “Mae’r Ystafell Fyfyrio’n rhoi lle i wneud hyn, boed hynny i weddïo, cymryd rhyw 5 munud bach neu arfer ymwybyddiaeth ofalgar, bydd yr ystafell hon ar gael at y dibenion hyn.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.