Ffordd Liniaru'r M4
Wedi ei bostio ar Tuesday 4th June 2019
“Mae Casnewydd yn cydnabod ei lleoliad hollbwysig fel porth i dde Cymru ac rydym wedi gweithio’n gyson i ddylanwadu ar y datrysiad mwyaf addas a manteisiol i'r ddinas, i fusnesau ac i breswylwyr.
“Mae tagfeydd yn amlwg yn broblem i Gasnewydd, yn yr un modd ag y mae i nifer o ddinasoedd eraill ledled y DU. Rydym yn deall y teimladau cryf sydd ynghlwm wrth ffordd liniaru'r M4 ac er y bydd llawer o bobl yn siomedig â'r canlyniad heddiw, rydym hefyd yn cydnabod mai cydbwysedd bregus oedd y penderfyniad hwn o’r cychwyn.
“Rydym yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog Cymru i ddechrau gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r problemau traffig yng Nghasnewydd a’r cyffiniau a sefydlu grŵp arbenigol. Byddwn yn ymgysylltu’n llawn â’r broses hon o’r cychwyn cyntaf.
“Rydym yn falch hefyd y bydd y cyfleuster benthyca gwerth £1bn hefyd ar gael i wneud gwelliannau sylweddol i’r seilwaith trafnidiaeth o amgylch y ddinas. Mae hwn yn gyfle na allwn ei golli ac rydym yn barod i gymryd rhan yn y sgyrsiau hyn ar unwaith."
Y Cynghorydd Debbie Wilcox - Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd